Prifysgol Bangor yn addo mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle
Mae Prifysgol Bangor wedi arwyddo Adduned Cyflogwr Amser i Newid Cymru.
Mae'r addewid yn ddatganiad cyhoeddus bod y Brifysgol wedi ymrwymo i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu o amgylch iechyd meddwl, ac mae cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau y bydd Prifysgol Bangor yn eu cymryd fel rhan o'r addewid.
Ariennir Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu ar y cyd gan Adferiad/Recovery a Mind Cymru ac, ac yn ddiweddar cyflwynodd y sefydliad sesiwn ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr lles staff a hyfforddwyr lles newydd Prifysgol Bangor.
Mae 2 o bob 5 gweithiwr yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a straen lle'r oedd bywyd gwaith yn ffactor a gyfrannodd. Datgelodd arolwg o fwy na 44,000 o weithwyr mai dim ond hanner y rhai a oedd wedi profi iechyd meddwl gwael oedd wedi siarad â’u cyflogwr amdano, gan awgrymu bod cymaint ag 1 o bob 4 o weithwyr y DU yn cael trafferth yn dawel, sy’n atgyfnerthu’r stigma ynghylch iechyd meddwl (Mental Health at Work: Time to take Ownership, Business in the Community, 2019).
Dywedodd Rachelle Bright o Amser i Newid Cymru yn y lansiad swyddogol yr wythnos hon:
“Rwy’n falch iawn o fod yma ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i weld y brifysgol yn llofnodi Adduned Cyflogwr Amser i Newid.
"Mae Amser i Newid Cymru yn falch iawn o gefnogi Prifysgol Bangor i dorri'r distawrwydd o amgylch iechyd meddwl ymhellach. Dychmygwch pe bai pob sefydliad yng Nghymru yn gwneud addewid cyhoeddus i fynd i'r afael â stigma: cyflogwyr mawr a bach, cynghorau, prifysgolion, clybiau pêl-droed, addoldai, elusennau… byddai’n anfon neges bwerus bod iechyd meddwl yn rhywbeth y gellir siarad amdano, ac nad oes croeso i stigma a gwahaniaethu!”
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am yrru agenda iechyd a lles Prifysgol Bangor,
“Mae’r addewid hwn yn ymrwymiad cyhoeddus i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl ar bob lefel o Brifysgol Bangor.
“Er mwyn arwyddo’r Addewid, cyflwynwyd cynllun gweithredu yn manylu ar yr hyn y byddem fel sefydliad yn ei wneud. Ymysg y pwyntiau gweithredu mae gwneud iechyd meddwl a lles yn rhan o’r broses sefydlu, annog staff i rannu straeon am sut y maent yn cefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain, trefnu digwyddiadau a hyfforddiant ar y pynciau hyn, a chyfeirio a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ar draws y brifysgol. Rwy’n gobeithio y byddwn ni i gyd yn gadael y digwyddiad yma heddiw gan fyfyrio ar sut rydyn ni’n cyfathrebu â’n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd dros y blynyddoedd i ddod.”
Am ragor o fanylion am Amser i Newid Cymru ewch i https://www.timetochangewales.org.uk/cy/
Am ragor o wybodaeth ynglyn â iechyd a lles ym Mhrifysgol Bangor, ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/iechyd-a-lles