Symud gyda'r Elfennau: Tai Chi i Gefnogi Achos Gwerth Chweil!
Roedd yn anrhydedd cefnogi Gŵyl Draig Beats yng Ngardd Fotaneg Treborth y penwythnos hwn—dathliad bywiog a chyfeillgar i deuluoedd sydd â’r nod o feithrin cysylltiadau rhwng y Brifysgol a'r gymuned ehangach, wrth godi arian i'n ffrind annwyl a chyn-gydweithiwr, Dr Sophie Williams, cyn-ddarlithydd mewn cadwraeth planhigion ym Mhrifysgol Bangor.
Fel rhan o'r ŵyl undydd, arweiniodd Xianke, ein tiwtor talentog, arddangosiad a gweithdy Tai Chi ymlaciol, gan ddenu tyrfa fawr a frwdfrydig er gwaethaf y tywydd ansefydlog. Roedd ei symudiadau gosgeiddig a'i bresenoldeb tawel yn cynnig eiliad heddychlon o lonyddwch a chyfle i adfyfyrio yng nghanol awyrgylch bywiog yr ŵyl.
Roedd yn hyfryd gweld cyfranogwyr o bob oed yn ymuno, a llawer ohonynt yn gwneud sylwadau ar ba mor ymlaciol ac ysbrydoledig oedd y sesiwn.
Rydym yn falch o fod wedi gallu cyfrannu at y digwyddiad codi arian ysbrydoledig hwn a hoffem ddiolch i Xianke am gynrychioli Sefydliad Confucius gyda chymaint o gynhesrwydd a medrusrwydd, ac am rannu harddwch Tai Chi gyda'r gymuned leol.