Mae ansawdd y pwnc yn adlewyrchu ymrwymiad Bangor i gyflwyno mwy na gradd ac mae wedi cael sgoriau da am werth ychwanegol, parhad a thariff mynediad cyfartalog. Mae'r data'n dangos bod myfyrwyr sy'n astudio cyfrifiadureg ym Mangor yn cael eu cefnogi i lwyddo y tu hwnt i ddisgwyliadau.
Meddai’r Athro William Heath, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg:
Rydym yn falch iawn o’r cynnydd y mae ein myfyrwyr yn ei wneud tra maen nhw yma. Mae'r sgôr gwerth ychwanegol yn adlewyrchu'r gwahaniaeth rydym yn ei wneud, nid yn unig o ran canlyniadau academaidd, ond o ran hyder, sgiliau a pharodrwydd at fyd gwaith. Mae ein haddysgu yn seiliedig ar ymchwil, mae ein cefnogaeth yn bersonol, ac mae ein myfyrwyr yn ffynnu o'r herwydd.
Mae’r sgôr gwerth ychwanegol, sy'n mesur pa mor dda y mae myfyrwyr yn perfformio o'i gymharu â'u cymwysterau mynediad, yn tynnu sylw at allu Bangor i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Ynghyd â chyfradd parhad da, sy'n dangos faint o fyfyrwyr sy'n aros ymlaen ac yn cwblhau eu hastudiaethau, mae'r canlyniadau'n awgrymu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol.
Ychwanegodd y Prifathro Heath:
Rydym yn canolbwyntio ar roi’r profiad gorau posib i’n myfyrwyr. Mae hyn yn golygu addysgu o ansawdd uchel, mynediad at ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd a chymuned lle mae’r staff yn gyfarwydd â’r myfyrwyr ac mae pob un o’r myfyrwyr yn cael eu cefnogi.
Mae cyrsiau cyfrifiadureg Bangor wedi eu cynllunio i baratoi myfyrwyr at yrfaoedd mewn datblygu meddalwedd, gwyddor data, seiberddiogelwch, o blith eraill. Gyda sylfaen gref mewn damcaniaeth a chymhwysiad ymarferol, mae graddedigion yn gadael y brifysgol yn barod i wneud gwahaniaeth mewn diwydiant sy'n newid yn gyflym.