Cannoedd yn Dathlu 1,500 o Flynyddoedd o Dreftadaeth yng Ngŵyl Hanes Bangor
Roedd Bangor yn llawn bywyd y penwythnos diwethaf wrth i gannoedd ymuno mewn dathliad bywiog o 1,500 mlynedd o dreftadaeth y ddinas yng Ngŵyl Hanes Bangor.
Roedd y digwyddiad deuddydd, a drefnwyd gan Gyngor Dinas Bangor a Phrifysgol Bangor mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, yn cynnig rhaglen lawn o sgyrsiau, teithiau, gweithdai ac arddangosfeydd am orffennol cyfoethog y ddinas a'i chyfraniad at hanes Cymru.
Dechreuodd yr ŵyl ddydd Gwener gyda digwyddiadau i ysgolion lleol, a ddenodd dros 300 o ddisgyblion cynradd a 100 o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd i sesiynau hanes rhyngweithiol. Arweiniodd Greg Jenner, y darlledwr a’r hanesydd cyhoeddus, sgyrsiau poblogaidd yn adeilad Pontio ar Gymru a Phrydain yn y cyfnod Rhufeinig, tra cynhaliodd Ysgol Hanes Prifysgol Bangor weithdy o’r enw “Arwyr Lleol?” a oedd yn annog myfyrwyr i drafod ffigurau o orffennol gogledd Cymru. Yn y cyfamser, cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn Storiel i fyfyrwyr o Ysgol Friars ac Ysgol Tryfan.
Nos Wener, daeth dros 220 o bobl i Theatr Bryn Terfel yn adeilad Pontio ar gyfer sesiwn “Gofynnwch i Hanesydd” gyda Greg Jenner, a chafwyd trafodaeth fywiog a doniol am droeon rhyfedd hanes.
Roedd yr ŵyl yn ei hanterth ddydd Sadwrn, pan ddaeth tua 900 o bobl i gyd i 21 sesiwn a gynhaliwyd yn adeilad Pontio, Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y brifysgol. Roedd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau panel a chyflwyniadau ar bynciau oedd yn amrywio o dreftadaeth leol a Bangor yn yr Oesoedd Canol i hanes merched Cymru, hanes Iddewon Bangor, hanes llongddrylliadau lleol a llunio gogledd Cymru.
Ymunodd dros 120 o gyfranogwyr â theithiau cerdded tywys o ganol dinas Bangor, Prif Adeilad y Celfyddydau, a chasgliadau'r brifysgol, gan ddarganfod haenau o hanes lleol yng nghanol y ddinas. Denodd y stondinau rhyngweithiol yn adeilad Pontio ac arddangosfa’r Archifau niferoedd mawr o ymwelwyr trwy gydol y dydd, tra bod dros 200 o ymwelwyr wedi ymweld â’r arddangosfeydd a gweithdai’r ŵyl yn Storiel.
Daeth yr ŵyl i ben nos Sadwrn gyda chynulleidfa o tua 250 yn gwrando ar gyflwyniad yr hanesydd a’r darlledwraig yr Athro Kate Williams ar “Queens, Castles, and Welsh Heroines”, gan ddathlu gwydnwch a dylanwad merched yn hanes Cymru a Phrydain.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Edmund Burke,
“Roedden ni’n falch dros ben gyda’r ymateb. Dangosodd yr ŵyl pa mor ddwfn yw diddordeb pobl yn hanes Bangor, o'i gwreiddiau hynafol i'w hunaniaeth fodern. Roedd gweld cymaint o deuluoedd, myfyrwyr ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd i ddathlu ein treftadaeth yn wirioneddol arbennig.”
Ychwanegodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor,
“Mae Gŵyl Hanes Bangor wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio rhwng y brifysgol, Cyngor Dinas Bangor a Chyngor Gwynedd, ac rydyn ni wedi cydweithio i ddathlu a hyrwyddo stori ryfeddol y ddinas sydd wedi para ers dros 1,500 o flynyddoedd. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn ymgysylltu â threftadaeth Bangor, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr. Mae'r dull partneriaeth hwn yn dangos beth allwn ei gyflawni pan fydd ein sefydliadau a'n cymunedau'n dod at ei gilydd.”
Mae Gŵyl Hanes Bangor wedi cael ei chanmol fel llwyddiant ysgubol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd parhaol etifeddiaeth 1,500 o flynyddoedd y ddinas a bywiogrwydd ei chymuned heddiw.