Fy ngwlad:
Picture of Main Arts building and Pontio Bangor University

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr 1% uchaf yn y byd

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf, gan eu gosod ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd, yn ôl Rhestr o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf 2025 gan Clarivate .

  • Davey Jones, Athro Gwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd
  • Jane Noyes, Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant
  • Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion

ynghyd â

  • Mark A Bellis, Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig â Phrifysgol John Moores, Lerpwl
  • Karen Hughes, Athro er Anrhydedd mewn Iechyd y Cyhoedd yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf, gan eu gosod ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd, yn ôl Rhestr o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf 2025 gan Clarivate.

Mae pob un o'r ymchwilwyr wedi cael dylanwad sylweddol ac eang yn eu priod faes neu feysydd ymchwil o fesur hynny yn ôl pa mor weledol yw eu hymchwil. Mae Clarivate yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar sawl gwaith y caiff gwaith ymchwilydd ei gydnabod gan gymheiriaid. Mae metrigau o’r fath sy'n seiliedig ar gydnabyddiaeth yn un ffordd o wybod pa mor weledol a dylanwadol yw allbynnau ymchwil rhywun. Mae dulliau a mynegeion eraill sy’n ddigon gwerthfawr ar gael hefyd.  

“Mae cydnabyddiaethau’n adlewyrchu sut mae ymchwil yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn hysbys,” eglurodd yr Athro Paul Spencer, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. 

“Mae cael pum ymchwilydd wedi’u cynnwys mewn rhestr mor fawreddog a dylanwadol â hon yn gamp aruthrol ac yn tystio i’r effaith y mae ymchwil Prifysgol Bangor yn ei gael, yn nhermau cydnabyddiaeth a gwelededd, yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Rydym ar ben ein digon o gael y fath glod i’n hymchwil gan ei fod yn cadarnhau yr enw da sydd gennym am ragoriaeth.”

Dywedodd David Pendlebury, sef Pennaeth Dadansoddi Ymchwil yn y Sefydliad Gwybodaeth Wyddonol yn Clarivate, “Mae’r rhestr o ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf yn nodi ac yn dathlu ymchwilwyr unigol eithriadol ym Mhrifysgol Bangor sy’n dangos dylanwad sylweddol ac eang yn eu meysydd. Maent yn dangos rhagoriaeth yn eu hymchwil yn ogystal ag uniondeb o ran eu harferion cyhoeddi a chydnabod. Mae'r ymchwilwyr hyn yn parhau i lunio dyfodol gwyddoniaeth, technoleg ac academia yn fyd-eang ac yn darparu arloesedd sy'n sbarduno cynnydd cymdeithasol."

Mae ymddangos ar restr Clarivate o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y tîm technegol, y myfyrwyr PhD a’r ymchwilwyr ôl-ddoethurol, ynghyd â’m cydweithwyr academaidd sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu amrywiaeth eang o allbynnau ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael effaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Llwyddiant yw hwn i’r tîm cyfan. 

Yr Athro Davey Jones,  Athro Gwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd

Mae ymchwil Yr Athro Davey Jones yn canolbwyntio ar gydbwyso gwasanaethau ecosystemau ac amddiffyn iechyd dynol. I'r perwyl hwn, mae'n cydweithio â diwydiannau megis Verily Life Sciences i ddarparu datrysiadau newydd i broblemau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus. Datblygodd y rhaglen genedlaethol o wyliadwriaeth sy’n seiliedig ar ddŵr gwastraff ar gyfer COVID-19, a chafodd ei haddasu a'i chyflwyno i ystod eang o bathogenau dynol eraill mewn lleoliad cymunedol ac amgylcheddol. Yn ddiweddar, aeth y tîm ati i ymgymryd â’r asesiad cenedlaethol cyntaf o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn afonydd Cymru a Lloegr. Mewn cyd-destun amaethyddol, mae'r tîm yn edrych ar ffyrdd newydd o wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr, ar ddatblygu systemau amaethyddol mwy cynaliadwy ac ar effaith plastigion ar yr amgylchedd.

Rydw i wedi gwirioni bod fy ymchwil yn parhau i gael ei gydnabod yn aml ac yn parhau i gael llawer o ddylanwad. Mae cyrraedd brig y rhestr hon yn tystio i’r ymchwil cymhwysol gwych yr ydym yn ei wneud yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd i wasanaethau iechyd a nyrsio. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor ac i’r Ysgol Gwyddorau Iechyd am eu cefnogaeth barhaus i’m hymchwil, ac rydw i’n ddiolchgar i’m tîm am gyflawni projectau ymchwil o ansawdd mor uchel.

Yr Athro Jane Noyes,  Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant

Mae’r Athro Jane Noyes yn Nyrs Gofrestredig ac yn Nyrs Plant Gofrestredig, ac o’r herwydd yn un o nifer fach iawn o Nyrsys yn y Deyrnas Unedig i gael Cymrodoriaeth gan yr American Academy of Nursing. Mae Jane wedi datblygu enw da’n fyd-eang ym maes iechyd plant ac ymchwil iechyd. Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hirsefydlog grŵp Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dull cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae’n anrhydedd fy mod i wedi fy nghynnwys ar restr 2025 Clarivate o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Mae'r gydnabyddiaeth yma gan Clarivate yn adlewyrchu ansawdd ac effaith yr ymchwil dan ni’n ei wneud yma ym Mhrifysgol Bangor. Dwi'n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr a fy nghydweithredwyr am eu hymroddiad a'u mewnwelediad, ac i'r Brifysgol am ei chefnogaeth barhaus yn galluogi ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd.

Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd Ymchwil Annibynnol y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion

Mae Dr Iestyn Woolway, sy’n Gymrawd Ymchwil Annibynnol i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, yn arbenigo mewn asesu effeithiau newid hinsawdd, ac mae llawer o'i waith yn canolbwyntio ar newid amgylcheddol byd-eang. Mae ei ymchwil yn darparu mewnwelediad i sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ecosystemau, gan gynnig mapiau ffyrdd i reolwyr adnoddau sydd â'r dasg o ystyried bregusrwydd ecosystemau fel rhan o benderfyniadau rheoli a chadwraeth. Mae’n ddyddiau cynnar iddo o hyd yn ei yrfa annibynnol ac mae wedi cyhoeddi dros 140 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid, gan gynnwys bod yn awdur cyntaf ar bapurau yng nghyfnodolion Nature, ac mae wedi traddodi prif anerchiadau mewn cynadleddau rhyngwladol mawr, gan gynnwys cynhadledd Cymdeithas Ecoleg Prydain a chynhadledd Cymdeithas Gwyddorau Limnoleg ac Eigioneg (ASLO). Mae wedi cael nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Philip Leverhulme gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, Gwobr Goffa Gill gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), Gwobr Rhagoriaeth EO Asiantaeth Ofod Ewrop, Medal STEMM Dillwyn gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a Gwobr Yentsch-Schindler gan ASLO. Yn ddiweddar cafodd ei enwi hefyd ar Restr Pŵer ENDS 2025, sy'n cydnabod 100 o weithwyr proffesiynol amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud yr effaith fwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n fraint bod wedi fy nghynnwys eto yn rhestr o Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Yr hyn sy’n gwneud ein hymchwil ni yn bosibl yw ymroddiad partneriaid ar draws y byd academaidd, mewn gwasanaethau cyhoeddus, a sefydliadau byd-eang gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r llwyddiant hwn yn amlygu pa mor bwysig yw cydweithio amlsector wrth sbarduno ymchwil sy'n llywio polisi ac yn gwella bywydau ledled y byd.

Yr Athro Mark Bellis,  Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, (ac sydd hefyd yn gysylltiedig â Phrifysgol John Moores, Lerpwl)

Mae’r Athro Mark Bellis yn Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Iechyd, Technoleg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl lle mae hefyd yn arwain y Sefydliad Iechyd Cyhoeddus. Mae Mark wedi sefydlu ac arwain dwy o Ganolfannau Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd - un yn canolbwyntio ar Atal Trais a'r llall yn canolbwyntio ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Ers dros ddegawd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Gyswllt Sefydliad Iechyd y Byd yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag atal trais ac anafiadau. Mae'n parhau i ymgymryd ag ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol mewn meysydd gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol a phenderfynyddion masnachol iechyd. Mae Mark yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig i'r GIG yng Nghymru ac i Awdurdod Lleol Lerpwl yn Lloegr.  Yn 2009 cafodd OBE am ei wasanaeth i ofal iechyd.  

Mae’n anrhydedd cael fy nghynnwys eto eleni ar restr Clarivate o’r Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil gydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, ac yn llywio polisi ac ymarfer ledled Cymru. Rydym yn elwa o weithio mewn amgylchedd prifysgol sy'n cefnogi ac yn annog ymchwil a gwaith partneriaethol a hynny mewn gwlad fechan ond hynod flaengar.

Yr Athro Karen Hughes,  Athro er Anrhydedd mewn Iechyd y Cyhoedd yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r Athro Karen Hughes yn Rheolwr Ymchwil a Datblygu Capasiti ym maes Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Hi sydd yn cyfarwyddo gwaith Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor, sef cydweithrediad ymchwil gymhwysol rhwng Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Karen bortffolio ymchwil eang ym maes iechyd cyhoeddus gyda diddordeb arbennig mewn atal trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae ei gwaith yn cynnwys gweithredu astudiaethau poblogaeth cenedlaethol, astudiaethau ymchwil gwreiddiol, adolygiadau llenyddiaeth systematig a gwerthusiadau ymyrraeth. Mae Karen yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi eu rhaglen o weithgareddau i atal ac ymateb i drais ac mae wedi cyhoeddi ystod eang o bapurau academaidd ac adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol i lywio datblygiad polisi a llywio ymarfer iechyd cyhoeddus.

Mae Prifysgol Bangor yn rhan o Ddatganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA) ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ymchwil ac ymchwilwyr yn cael eu gwerthuso'n deg, mewn modd tryloyw, sy'n cefnogi ymchwil amrywiol, ystyrlon ac o ansawdd uchel.

Mae Prifysgol Bangor yn asesu ymchwilwyr yn seiliedig ar ansawdd, cynnwys ac arwyddocâd ar draws holl amrediad eu cyfraniadau i'r brifysgol, ac nid yn ôl metrigau sy'n seiliedig ar gyfnodolion neu gydnabyddiaethau, ac nid yw cael eu cynnwys (neu beidio â’u cynnwys) mewn rhestrau allanol yn ddull a ddefnyddir fel dangosydd pennaf o ansawdd neu werth ymchwilwyr ac nid yw hynny’n cael ei gynnwys wrth ystyried ariannu, penodi na dyrchafu.

Darllen mwy: Clarivate Reveals World’s Influential Researchers in Highly Cited Researchers 2025 List