Eleni, cafodd myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyfreithiol cenedlaethol mawreddog — profiadau sydd eisoes wedi dechrau llunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gyda chefnogaeth gan Gronfa Bangor, diolch i haelioni ein cyn-fyfyrwyr, cymerodd tîm o fyfyrwyr ran yn y Gystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid cenedlaethol, gan ymuno â 35 o dimau o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yn brofiad amhrisiadwy — cafodd myfyrwyr fewnwelediad i'r sgiliau rhyngbersonol a dadansoddol sydd eu hangen ar gyfreithwyr, a dathlwyd eu cyfranogiad yn falch gan eu hysgol am eu proffesiynoldeb a'u huchelgais.
Fe wnaeth Cronfa Bangor hefyd alluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth ffug lys barn, y ddwy wedi eu cynllunio i ddatblygu'r sgiliau eiriolaeth a rhesymu y mae’n hanfodol i fargyfreithwyr uchelgeisiol feddu arnynt. Ym mis Mawrth, aeth dau dîm i Gaerdydd i gymryd rhan yn Ffug Lys Barn Cenedlaethol Cymru, gan aros dros nos i baratoi. Rhoddodd y ddau dîm berfformiadau cryf a chawsant adborth rhagorol gan y beirniaid. Ym mis Gorffennaf, cymerodd Brifysgol Bangor ran yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Blwyddyn Gyntaf Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd ar-lein ac a oedd yn agored i israddedigion blwyddyn gyntaf yn unig. Unwaith eto, cafodd gwaith paratoi a hyfywedd y myfyrwyr argraff dda, er na wnaethant gyrraedd y rowndiau terfynol yn Llundain.
Er na chyrhaeddodd y timau’r rowndiau terfynol, roedd eu cyfranogiad yn werthfawr iawn. Roedd cynrychioli Prifysgol Bangor ar lefel genedlaethol wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr gryfhau eu sgiliau cyfreithiol, magu hyder, ac ymgysylltu'n ystyrlon â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol ar draws y sector. Yn ogystal â chyfoethogi eu taith academaidd, roedd y profiadau hefyd wedi gosod sylfeini pwysig ar gyfer eu gyrfaoedd yn y gyfraith yn y dyfodol.
Dywedodd Mark Maguire sy’n fyfyriwr israddedig yn y gyfraith:
Roedd y gystadleuaeth yn brofiad gwych. Fe ges i ddefnyddio be dwi wedi ei ddysgu trwy’r Asesiad Sgiliau Cyfreithiol a rhoi sylw i bynciau allweddol ym maes Cyfraith Contract. Roedd o hefyd yn gyfle i weithio efo fy nghyd-fyfyrwyr a chryfhau sut rydan ni’n gweithio fel tîm. Roedd cael ein hasesu gan Fargyfreithwyr allanol a Barnwyr presennol yn heriol ond yn ysbrydoli rhywun ar yr un pryd, ac yn rhoi cipolwg unigryw o ymarfer proffesiynol. Roedd o wir yn anrhydedd cael cynrychioli Prifysgol Bangor mewn cystadleuaeth fawreddog fel hon, a chael ennill profiad gwerthfawr a chael dysgu pethau y mae gwerth eu dysgu i ddatblygu mwy ar fy sgiliau. Dwi’n andros o ddiolchgar i'r cyn-fyfyrwyr am gefnogi Cronfa Bangor gan mai dyna wnaeth y cyfle yma’n bosibl!
Dywedodd Dr Andrew Baker, Darlithydd yn y Gyfraith a Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu, a deithiodd i lawr i gefnogi ein myfyrwyr:
Roedd y gystadleuaeth yn gyfle rhyfeddol i'n myfyrwyr ni. Yn dilyn y fath lwyddiant, dan ni’n falch bod Prifysgol Bangor wedi derbyn y gwahoddiad i gynnal Cystadleuaeth Ffug-lys Cenedlaethol Cymru yn 2026. Mae’n ddigwyddiad mawreddog a bydd yn rhoi cyfle gwych i'n myfyrwyr ennill profiad cyfreithiol ymarferol a datblygu mwy ar eu sgiliau.
Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Grŵp o fyfyrwyr y gyfraith yn y gystadleuaeth gyfreithiol
Myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ffug-lys
Myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth cyfweld â chleient