MBE i Athro o Brifysgol Bangor – neges annisgwyl gan enillydd Strictly
Mae Julia Jones, sy’n Athro mewn gwyddor cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn MBE gan y Brenin Charles III am ei gwaith dros yr amgylchedd yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Cafodd yr Athro Jones ei gwahodd i drafod yr anrhydedd ar BBC Radio Wales a chafodd ei synnu gan neges yn ei llongyfarch wedi'i recordio gan Hamza Yassin, cyn-fyfyriwr iddi, a chyn-enillydd y rhaglen Strictly Come Dancing.
Dywedodd Hamza, y cyflwynydd a’r gwneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ddawnsio yn 2022, “I just want to say a massive congratulations for your MBE. I can’t think of anyone more deserving. It’s a privilege and an honour to have been taught by you. From me, and all the other students you have taught throughout your time, I just want to say thank you, diolch yn fawr. Your hard work, your dedication and everything you do is just outstanding.”
Caiff yr Athro Jones ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar wella effeithiolrwydd cadwraeth natur drwy ddatblygu a chymhwyso dulliau i werthuso effaith polisïau ac arferion cadwraeth. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod ymchwil o'r fath yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gadwraeth ymarferol. Mae ei chyfraniadau diweddar yn cynnwys cynghori'r RSPB a gwasanaethu ar Bwyllgor Arbenigol Darwin, sy'n cynghori DEFRA ynghylch Menter Darwin, sef cronfa bwysig ym maes cadwraeth bioamrywiaeth a lleihau tlodi. Ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr WWF-UK.
Mae'r Athro Jones hefyd yn eiriolwr cryf dros ymchwil amgylcheddol yng Nghymru. Fel cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, hi fu’n arwain y fenter #CenedlFachSyniadauMawr i ddathlu’r wyddoniaeth o Gymru sy'n cyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ar y Joint Nature Conservation Committee, sef y corff statudol sy’n cynghori llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig ar faterion cadwraeth natur ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn y rôl hon, hi sy'n cyd-gadeirio Grŵp y Prif Wyddonwyr, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr gwyddonol o holl gyrff statudol cadwraeth natur y Deyrnas Unedig.
Wrth sôn am yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Jones, “Dydw i ddim yn aml yn brin o eiriau ond pan fydd pobl yn gofyn sut brofiad oedd cael fy nghynnwys yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, does gen i ddim syniad sut i ymateb. Rwy'n gwybod ei fod yn ystrydeb, ond y gwir ydy ei fod wedi gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn. Mae hwn yn gyfnod anodd: mae’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd sy’n gysylltiedig â’i gilydd yn broblemau cymhleth heb ateb hawdd. Ond mae cael gweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr mor wych ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt yn rhoi gobaith i mi.”
Ochr yn ochr â'i gwaith ymchwil a’i swyddogaethau ymgynghorol, mae'r Athro Jones wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu addysg gadwraeth ym Mhrifysgol Bangor. Arferai fod yn gyfarwyddwr cwrs graddau cadwraeth y Brifysgol ac mae’n parhau i addysgu ar gyrsiau israddedig a meistr ym meysydd Cadwraeth a Rheoli Tir, GLOBE a Chadwraeth Bywyd Gwyllt.
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd i gymuned Prifysgol Bangor
Mae aelodau eraill o gymuned y Brifysgol hefyd wedi derbyn anrhydeddau. Yn eu plith mae Mark Williams PLY, cyn-nofiwr a enillodd fedal yn y gemau Paralympaidd, sydd wedi derbyn OBE. Cafodd Mark Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Gweinyddiaeth Busnes gan Brifysgol Bangor yn 2024. Trodd Mark ei syniad am orchuddion lliwgar i goesau prosthetig yn fusnes arloesol. Sefydlodd Mark a’i wraig Rachael y cwmni LIMB-art gyda’r bwriad o feithrin balchder pobl mewn aelodau prosthetig.
Ymhlith y cyn-fyfyrwyr ar y rhestr anrhydeddau roedd:
- Helen Glencross (Hanes Canoloesol a Hanes Modern Cynnar 2003) – MBE am wasanaethau i dreftadaeth yn Guernsey
- Sheena Harrison (Hyfforddiant Athrawon 1990, Polisi Cymdeithasol 1993, Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol Cymhwysol 1997) – BEM am wasanaethau i Bobl Ifanc mewn Gofal Maeth
- William Johnston (Diwinyddiaeth 2003) – MBE am wasanaethau i’r Gweithlu Rheilffyrdd
- John Towers (Hanes 1991) – MBE am wasanaethau i Addysg
- Katy Woodington (Bioleg Môr 1998) – MBE am wasanaethau i’r Sectorau Elusennol ac Ynni