Yn ddiweddar mae Cronfa Bangor, sy’n cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr a’i chynnal trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr, wedi cefnogi gwaith i ailddatblygu pwll ac ardal bywyd gwyllt ger Adeilad Brambell. Cafodd yr ardal ei thrawsnewid i fod yn ofod diogel, hygyrch, ac ecolegol gyfoethog a fydd yn cynnig manteision parhaol i fyfyrwyr wrth ddysgu ac ymchwilio. Bellach ceir mynediad diogel trwy giât i’r safle, gan sicrhau diogelwch myfyrwyr ac amddiffyn cynefinoedd sensitif rhag cael eu haflonyddu a galluogi’r holl fioamrywiaeth i ffynnu. Gan fod yr ardal mor agos i’r prif gyfleusterau addysgu gallwn integreiddio mwy o ddysgu ymarferol yn yr awyr agored yn rhan o’n cyrsiau israddedig heb fod angen llogi bysys sy’n gostus ac yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn cymryd cryn dipyn o amser i deithio i leoliadau oddi ar y safle.
Bydd yr ardal sydd wedi cael ei hailddatblygu yn adnodd hanfodol ar gyfer teithiau maes israddedig, gan ddarparu cyfleoedd uniongyrchol i arsylwi ecosystemau dŵr croyw ac ecosystemau tir sych, ymarfer technegau arolygu ecolegol, ac archwilio pynciau allweddol ym maes bioleg cadwraeth a gwyddor yr amgylchedd. Y tu hwnt i addysgu ffurfiol, bydd y safle hefyd yn cefnogi mentrau dan arweiniad myfyrwyr ac yn eu hannog i ymgysylltu â byd natur. Bydd projectau megis arolygon bioamrywiaeth bioblitz, gwaith hirdymor yn monitro blychau nythu adar, ac astudiaethau poblogaeth infertebratau yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o gasglu data, dadansoddi ac adrodd yn wyddonol, sef sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd ecoleg, cadwraeth ac ymgynghoriaeth amgylcheddol.
Dywedodd Dr John Mulley, Uwch Ddarlithydd mewn Swoleg:
Diolch i Gronfa Bangor, efo’r project yma dan ni’n gallu gwella profiad y myfyrwyr, hyrwyddo cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol, a chefnogi dysgu academaidd a dysgu allgyrsiol mewn ffordd ystyrlon a chost effeithiol.
Golwg ar waith caled ein myfyrwyr yn ystod ail-ddatblygiad Pwll Brambell