Ymchwil yn datgelu sut mae Cymru'n cynnal diwydiant casglu mwsogl masnachol anhysbys
Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut mae Cymru'n cynnal diwydiant casglu mwsogl masnachol nad yw'n adnabyddus iawn.
Roedd yr astudiaeth, a wnaed gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Chanolfan Gwyddor a Thechnoleg Coedwigoedd Catalwnia, yn dadansoddi’r ffactorau sy'n effeithio ar gynaliadwyedd y diwydiant fel gweithgarwch coedwigaeth ar raddfa fach sefydledig, sy’n helpu ffermwyr i arallgyfeirio eu hincwm.
Rhybuddiodd y papur academaidd, a gyhoeddwyd yn Small-scale Forestry, y gallai'r ecosystem wan hon sy'n cefnogi'r fasnach ddod yn fregus pe bai'n cael ei hanwybyddu mewn cyfyngiadau polisi posibl.
Gan ganolbwyntio ar gasglwyr mwsogl yng nghanolbarth Cymru, nododd yr astudiaeth mai cyfyngedig yw’r wybodaeth ffurfiol am y rhywogaeth o fwsogl, ac yn hytrach, roeddent yn dibynnu ar brofiad cronedig o sut mae'n ymateb i gael ei gasglu. Drwy wneud hyn roeddent yn gallu sicrhau bod eu harferion yn annog aildyfiant mwsogl a bod eu busnesau'n parhau i fod yn gynaliadwy.
Dywedodd Dr Jenny Wong, sy’n Ddarlithydd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, “Yr hyn a ganfuom yn ein hastudiaeth oedd diwydiant cymharol gaeedig gyda gwybodaeth draddodiadol a oedd wedi’i datblygu dros genedlaethau’n cael ei chadw o fewn cwmnïau, ac ychydig iawn o rannu’n digwydd rhwng gwahanol grwpiau o gasglwyr. Fe wnaethom hefyd ganfod bod trefniadau yn seiliedig ar ymddiriedaeth hirdymor rhwng casglwyr a rheolwyr coedwigoedd yn sail i'r diwydiant, gan helpu i gynnal hawlenni a diogelwch cyflenwad ar gyfer casglwyr masnachol.”
“Mae’r gweithgareddau hyn yn wynebu heriau newydd megis gwrthwynebiad tuag at ddefnyddio ‘mawn’ a newidiadau yn y modd y mae hawlenni cynaeafu coedwigoedd CNC yn cael eu rheoleiddio. Ond mae cyfleoedd newydd hefyd ar ffurf mynediad uniongyrchol i farchnadoedd niche drwy'r rhyngrwyd. Er enghraifft, mae galw mawr am fwsogl o hyd at ddefnydd traddodiadol megis i gefnogi torchau, a hefyd fel cyfrwng tyfu tegeiriau ac mewn vivaria. Yn ogystal, bydd unrhyw gynnydd mewn plannu coed yn creu coedwigoedd newydd sy'n darparu amodau da i dyfu mwsogl. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i gynaeafu mwsogl er mwyn sicrhau bod y gydran arwyddocaol hanesyddol, nad yw’n cael ei gwerthfawrogi’n ddigonol, hon o economi wledig canolbarth Cymru yn parhau.”
Yn hanesyddol, mae mwsogl yn cael ei gasglu yn y gwyllt ar gyfer y diwydiant blodau, yn bennaf torchau angladd. Defnyddiwyd mwsogl hefyd fel rhwymynnau meddygol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yng Nghymru, mae mentrau mwsogl yn dyddio'n ôl i'r 1950au, o leiaf. Ar hyn o bryd, defnyddir mwsogl ffres yn bennaf i greu torchau a threfniadau blodau ac mewn garddwriaeth arbenigol, a chaiff ei werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd mewn canolfannau garddio ac ar-lein.
Er bod y gweithgaredd hwn yn dirywio, mae ei berthnasedd yn dibynnu ar ei bwysigrwydd hanesyddol i aelwydydd gwledig Cymru a'i botensial yn y dyfodol o fewn strategaethau bioeconomaidd a datblygu gwledig.
Mae mwsogl yn nwydd a fasnachir yn rhyngwladol, ac mae mwsogl a gynaeafir yn y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth â chyflenwadau o Seland Newydd. Mae gan fwsogl o Gymru fantais gystadleuol ym marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac Ewrop gan ei fod yn ffres ac roedd hyn gynt yn cynnal masnach sylweddol mewn mwsogl.