Llongyfarchiadau mawr i gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, Long Vu (MSc Bioleg Môr, 2017), ar ennill categori Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK Fietnam 2026. Cafodd Long ei gydnabod am effaith gymdeithasol ei waith ym maes cadwraeth bioamrywiaeth ac wrth astudio rhywogaethau mewn perygl.
Bob blwyddyn, mae Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn cydnabod llwyddiannau eithriadol cyn-fyfyrwyr rhyngwladol y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'r gwobrau’n anrhydeddu arweinwyr rhyngwladol a addysgwyd yn y Deyrnas Unedig ac a wnaeth gyfraniadau mawr i'w cymunedau, eu diwydiannau a'u gwledydd. Cyhoeddwyd Long Vu fel enillydd Fietnam mewn seremoni a gynhaliwyd yn Hanoi ddydd Gwener, 27 Chwefror.
Long yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Center for Biodiversity conservation and Endangered Species (CBES) yn Fietnam, sef sefydliad ymchwil nid-er-elw sy'n astudio ecoleg ffawna a fflora sydd mewn perygl at ddibenion llywio cadwraeth. Long hefyd yw sylfaenydd Conservation In Motion (CIM), sef ymgynghoriaeth amgylcheddol sy'n helpu cwmnïau i integreiddio ymdrechion gwarchod bywyd gwyllt i brojectau datblygu. Mae CIM wedi cydweithio ag amryw o gorfforaethau rhyngwladol i fynd i'r afael ag effeithiau datblygiadau ynni gwynt niferus ar adar môr a mamaliaid y môr yn Fietnam.
Ers graddio o Brifysgol Bangor gydag MSc mewn Bioleg Môr, mae Long wedi parhau i fod yn eiriolwr cryf dros y Brifysgol ac astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae'n trafod ei brofiad yn y Deyrnas Unedig yn rheolaidd er mwyn annog gweithwyr proffesiynol ifanc i ystyried astudio yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi siarad mewn digwyddiadau a drefnwyd gan Lysgenhadaeth Prydain a Swyddfa Prif Gonswl Prydain.
Wrth sôn am ei brofiad ym Mangor, dywedodd Long: “Roedd astudio ym Mhrifysgol Bangor yn brofiad trawsnewidiol sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio fy ngyrfa a’m cymeriad. Dysgais sut i gydweithio â phobl o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, sut i barchu amrywiol systemau cred wrth weithio, a sut i lywio diwylliannau gwaith rhyngwladol gydag empathi ac effeithlonrwydd. Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, cefais fwynhad ac ysbrydoliaeth yn nhrefi hanesyddol, treftadaeth ddiwylliannol a thirweddau godidog y Deyrnas Unedig.”
Yn ystod seremoni Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK, dangoswyd fideo gan Is-brofost Prifysgol Bangor, yr Athro Oliver Turnbull, yn llongyfarch Long ac yn mynegi balchder y Brifysgol yn ei gyflawniadau.
Llongyfarchiadau Long! Rydym wrth ein bodd bod dy waith gwych wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK.