Gwnewch Ddiwrnod Llyfr y Byd yn wahanol eleni
Beth rydyn ni'n ei gynnig i blant hŷn ar Ddiwrnod y Llyfr?
Gan Sarah Loader
Ers tro byd mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei nodi gan ddigwyddiad gwisgo i fyny blynyddol yn yr ysgol. Ar y diwrnod hwn, gofynnir i blant (neu'n hytrach eu rhieni) gynrychioli eu hoff gymeriad o lyfr. Gall hyn gymryd sawl ffurf. Y mwyaf cymhleth rydw i wedi'i weld yw gorymdaith hetiau—ie, cynrychioli llyfr gyda darn o benwisg! Ydi, mae hyn yn dathlu llyfrau, ac efallai bod hynny'n ddigon. Ond a yw wir yn gwneud y gorau o ddiwrnod a ddylai, yn ddelfrydol, fod yn ymwneud â darllen? A sut mae'n berthnasol i blant wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy'r system ysgol? Mae gwisg ffansi a meddwl sut mae cymeriadau yn edrych yn addas i blant iau, ond y tu hwnt i hynny mae'n teimlo yn amherthnasol i ble maen nhw yn eu perthynas â llyfrau.
Dirywiad Darllen er mwyn Pleser
Gwyddom fod darllen er mwyn pleser wedi bod yn dirywio ers y pandemig a bod y darlun hyd yn oed yn fwy llwm i bobl ifanc. Yng Nghymru, dim ond 25.5% o blant rhwng 8 a 18 oed sy'n mwynhau darllen a dim ond 12.5% o blant sy'n darllen bob dydd. Mae'r ffigurau hyn yn is i fechgyn yn eu harddegau cynnar a'r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae Diwrnod y Llyfr yn cynnig cyfle i ysgogi ac ymgysylltu; efallai ehangu profiad dysgwyr o lyfrau a llenyddiaeth, a phopeth y gallant ei gynnig. Ond, os ydym am ymgysylltu â'r bobl ifanc mwyaf difreintiedig, mae angen i ni fod yn barod i gyflwyno darllen mewn ffordd wahanol.