Prifysgol Bangor yn cynnal yr Hacathon Hyder cyntaf er mwyn arddangos mentrau newydd beiddgar sy’n cael effaith ar iechyd a’r amgylchedd
Roedd Hacathon Hyder cyntaf Prifysgol Bangor yn llwyddiant ysgubol. Digwyddiad arloesi ydoedd dros gyfnod o ddau ddiwrnod a ddaeth â staff a myfyrwyr ynghyd i ddatblygu syniadau busnes addawol sy'n mynd i'r afael â heriau o bwys ym meysydd iechyd a'r amgylchedd. Cynhaliwyd yr Hacathon yn Pontio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 21 a 22 Mawrth, a’i uchafbwynt oedd cyfres o gyflwyniadau pitsho deinamig, 10 munud o hyd, ger bron panel o feirniaid arbenigol.
Cafodd y digwyddiad ei ddatblygu a’i gynnal mewn partneriaeth â Hyder Ventures, sef menter effaith gymdeithasol a sefydlwyd, ac sy’n cael ei arwain, gan Dr Elin Haf Davies, sylfaenydd Aparito, arloeswraig fyd-eang yn y maes iechyd, ac anturiaethwraig sydd wedi torri sawl record wrth rwyfo’r cefnforoedd, a'i gŵr Chris Frost. Nhw oedd noddwyr yr Hacathon a buont yn darparu mentora ymarferol drwy gydol y penwythnos fel rhan o'u cenhadaeth i ddatblygu hyb yng ngogledd Cymru ar gyfer arloesedd sydd wedi ei sbarduno’n gymdeithasol ac sy'n hyfyw’n fasnachol.
Cyflwynwyd yr Hacathon gyda chefnogaeth tîm ymroddedig o Brifysgol Bangor, dan arweiniad Dr Tessa Davey o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, ynghyd â mentora ac arweiniad busnes gan Dr Siwan Mitchelmore o Ysgol Fusnes Albert Gubay. Cydlynwyd y digwyddiad gan staff o bob cwr o'r brifysgol, gan greu amgylchedd cydweithredol lle gallai timau ddatblygu eu syniadau yn gynigion parod i fuddsoddwyr.
Dywedodd Dr Tessa Davey, “Roedd cael trefnu’r Hacathon Hyder cyntaf erioed yn gyfle anhygoel i greu digwyddiad arloesi sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth a menter gymdeithasol ac sy’n hygyrch i bawb waeth pa brofiad busnes neu hyfforddiant blaenorol sydd ganddyn nhw. Daeth y digwyddiad â staff a myfyrwyr at ei gilydd o wahanol ysgolion ar draws y brifysgol, ac roedd yn bleser hwyluso datblygiad gwahanol dimau a’u syniadau trwy gydol yr hacathon.”
Yn ystod penwythnos yr Hacathon, bu timau’n gweithio’n ddiwyd gyda mentoriaid i fireinio eu syniadau, adeiladu modelau ariannol, a pharatoi eu pecynnau pitsho 10 sleid. Asesodd y beirniaid y cynigion ar sail hyfywedd masnachol, y potensial i fod yn barod ar gyfer y farchnad o fewn dwy flynedd, a chryfderau nodedig y tîm.
Yn dilyn rownd ddwys o gyflwyniadau pitsho gan y timau, llwyddodd ‘Pelagic Paints’ a ‘Neural Arcade’ i ennill pecynnau buddsoddi ecwiti o wahanol symiau, ynghyd â chael lle ar Raglen Cyflymydd Hyder Ventures am gyfnod o chwe mis.
Cyflwynodd ‘Pelagic Paints’, dan arweiniad y fyfyrwraig ôl-radd India Marshall o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, a'r myfyriwr israddedig Ebenezer Mwema o Ysgol Fusnes Albert Gubay, gysyniad sydd wedi ei gynllunio i wella cynaliadwyedd amgylcheddol wrth leihau costau gweithredol yn y diwydiant morol.
Aeth ‘Neural Arcade’, dan arweiniad Dr Ken Valyear, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg, a Dr Peter Butcher, Darlithydd mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, ochr yn ochr â Karl Jackson, Therapydd Strôc Ymgynghorol yn Ysbyty Eryri, ati i gyflwyno gemau sy'n canolbwyntio ar adferiad, gyda'r nod o wella canlyniadau cleifion strôc yn yr ardal leol.
Bydd pob tîm llwyddiannus yn derbyn mentora wedi'i deilwra, sesiynau un-i-un wythnosol gyda Dr Elin Haf Davies a Chris Frost, a mynediad at ofod cydweithio ym Mangor. Bydd y timau hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiad dilynol o hyd at £100,000 ar ôl gorffen y Rhaglen Cyflymydd.
Roedd yr Athro Enlli Thomas, y Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a'r Rhanbarth ym Mhrifysgol Bangor yn canmol ansawdd ac uchelgais y syniadau a ddatblygwyd dros y penwythnos, gan ddweud: Roedd yr egni a'r creadigrwydd a gafodd eu dangos yn yr Hacathon Hyder yn wirioneddol ysbrydoledig. Daeth staff a myfyrwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau beiddgar sydd â photensial i wneud gwahaniaeth ystyrlon i iechyd cymunedau a'r amgylchedd. Roedd yn atgoffa rhywun beth mae modd ei gyflawni pan fyddwn yn rhoi rhwydd hynt i’r dychymyg ac yn annog cydweithio. Dan ni’n ddiolchgar iawn i Dr Elin Haf Davies a Chris Frost am ddewis Prifysgol Bangor i fod yn gartref i'r fenter newydd yma ac yn diolch am eu cefnogaeth hael wrth helpu'r syniadau yma i ffynnu.”
Fel sylfaenwyr Hyder Ventures, mae Dr Elin Haf Davies a Chris Frost wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drefnu’r digwyddiad a hyrwyddo’r syniadau a gafodd eu datblygu, sydd o bosibl am gael cryn effaith gymdeithasol.
Dywedodd Dr Elin Haf Davies: “Dwi’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Bangor am ymuno efo ni yn y fenter yma. Wrth i'r byd o'n cwmpas ni newid yn gyflym oherwydd deallusrwydd artiffisial, newid hinsawdd ac ansefydlogrwydd geowleidyddol, mae arnon ni eisiau sicrhau fod pobl ifanc gogledd Cymru yn gallu gweithredu'n lleol wrth feddwl yn fyd-eang. Mae hyn yn golygu buddsoddi pres yn eu syniadau nhw a'u mentora nhw i adeiladu busnesau cynaliadwy er lles pobl a'r blaned fel ei gilydd. Dwi'n teimlo’n llawn cyffro ac yn ffyddiog iawn am sut y bydd hyn yn esblygu."