"Ym mis Chwefror eleni, dychwelodd Hen Warchodlu Rostra i Fangor unwaith eto ar gyfer eu hail ar bymtheg aduniad blynyddol. Daeth hen ffrindiau ynghyd drachefn, a ffurfiwyd cyfeillgarwch newydd mewn wythnos o hiraeth a throedio hen lwybrau. Rydym ni i gyd yn gwybod ei bod hi'n anodd gadael Bangor, ac mae'r ffaith bod cyn-fyfyrwyr Rostra wedi bod yn dychwelyd 'adref' bob blwyddyn ers 2010 yn dangos hyn.
Ar ddydd Iau y 19eg o Chwefror, bu inni gyfarfod fel y trefnwyd yn nhafarn y Fenai ar Ffordd y Coleg i gychwyn ein 12fed Project Shakespeare 48 Awr. Dechreuodd hyn yn ôl yn 2012 gyda pherfformiad byr o Harri V, ond er bod mwy yn cymryd rhan dros y blynyddoedd, mae 'rheolau' y project wedi aros yn hynod debyg. Bob blwyddyn cyflwynir detholiad o ddramâu Shakespeare mewn amlenni brown unfath, gyda phob drama wedi ei golygu ymlaen llaw. Dim ond golygydd pob sgript sy'n gwybod beth maen nhw wedi'i baratoi ac fel arfer mae sioeau'n cael eu golygu i bara rhwng awr a hanner a dwy awr o hyd. Unwaith y bydd y ddrama wedi'i dewis caiff ei chastio, heb i neb gael chwarae rhan maen nhw wedi'i chwarae o'r blaen, a chyda'r sioe yn gorfod mynd rhagddi, yn barod ai peidio, 48 awr yn ddiweddarach am 7:30pm ar y dydd Sadwrn.
Ychydig cyn 7:30pm daeth aelodau Rostra (presennol a chyn-aelodau) ynghyd wrth i sgript gael ei dewis ar hap, a dewiswyd elusennau i fanteisio ar holl elw’r sioe. Roedd elusennau eleni yn cynnwys Jersey Hospice Care, Shelter Cymru, Ysbyty Plant Alder Hey, y Gymdeithas Strôc a gofal Parlys yr Ymennydd. Roedd gan bob elusen bwysigrwydd personol i o leiaf un aelod o'r grŵp a ychwanegodd ystyr ac awyrgylch gwirioneddol deimladwy. Roedden ni i gyd yn benderfynol o godi cymaint ag y gallen ni ar gyfer yr elusennau hyn.
Wrth i’r cloc daro 7:30, rhwygodd yr awdur, cyd-sylfaenydd Aduniad Rostra a’r Prosiect Shakespeare 48 Awr, yr amlen i ddatgelu y byddai'r grŵp yn perfformio Twelfth Night! Roedd hwn yn ddewis hapus iawn yn wir ar gyfer y deuddegfed project o'r fath. Roedd golygydd y sgript, Julia Hall, yn arbennig o hapus gan iddi gael ei chastio fel Viola hefyd. Roedd y ddrama i gael ei chyfarwyddo gan Rachel Dunbar, gyda chymorth aelodau presennol Rostra - Avery a Daniel - i gyd-gyfarwyddo a chynhyrchu, yn symbol o'r ymdrech gydweithredol rhwng y gorffennol a'r presennol. Cyn pen chwarter awr roedd yr holl rannau wedi'u castio gan amrywiaeth o aelodau hen a newydd a bu i’r grŵp ddarllen y sgript am y tro cyntaf.
Ac felly, fel sydd wedi dod yn draddodiad dros y degawd a mwy diwethaf, aeth y patrwm cyfarwydd rhagddo o ddysgu llinellau ar fyrder a chyfarfodydd cynhyrchu brys gyda bron pawb yn mynd i'r gwely'n hwyr ac yn codi'n gynnar i wneud y gorau o'r amser cyfyngedig oedd ar gael. Yn ôl yr arfer, bu i’r cast a'r criw ailymgynnull yn Mike's Bites am frecwast a mwy o ddysgu llinellau, gyda’r staff yn edrych yn ddryslyd ar sut roedd y caffi cyfan wedi cael ei feddiannu gan griw o gyn-fyfyrwyr ac amaturiaid dramatig siaradus. Am weddill dydd Gwener defnyddiodd y grŵp unrhyw le oedd ar gael i ddechrau ymarfer y ddrama. Erbyn i'r haul fachlud y noson honno roedd yna berfformiad llawn wedi bod ac fe wnaethon ni symud i'r lle perfformio go iawn yn Neuadd JP ar Ffordd y Coleg. Canfu'r actorion haid o weithgarwch yno, gyda’r criw llwyfan wrthi’n brysur yn peintio cefndiroedd, rigio goleuadau a threfnu gwisgoedd. Roedd yn enghraifft berffaith o anhrefn trefnus, gyda hen lawiau’r Hen Warchodlu fel Andy “Buzz” Burrell yn arwain y gwaith drefnu’r goleuo, gan roi gwersi ochr yn ochr â’r cyn-fyfyrwyr mwyaf newydd fel Joely Sharpe-Harris. Mae mwy nag 20 mlynedd yn gwahanu yr ieuengaf a'r hynaf o Hen Warchodlu Rostra, sy'n dangos cymaint o deulu estynedig y mae wedi dod. Yn anhygoel, ychydig dros hanner ffordd drwy’r broses gynhyrchu cynhaliwyd ymarfer llawn arall, gyda nifer annisgwyl o actorion yn diffygio gyda’r sgript, ac yn ddifrifol weithiau.
Wrth i ddydd Sadwrn wawrio, deffrodd nifer ohonom ni, gan gynnwys yr awdur, wedi blino'n lân yng ngholau'r wawr, gan feddwl tybed a oeddent yn ddigon ifanc o hyd i fynd trwy'r broses unwaith eto. Cyn i'r meddwl allu ymateb roedd y criw cyfan yn ôl yn Neuadd JP am fwy o ymarferion, gyda darlithoedd wedi'u cwtogi erbyn y penwythnos i ganiatáu i ni ddefnyddio'r lle'n llawn. Baglwyd dros linellau, canwyd caneuon, cynhaliwyd brwydro ffug, gyda dim ond ychydig iawn o niwed wedi ei achosi gan gymeriad Sebastian yr artist ymladd Jade Davey i’r cymeriad Toby Belc a chwaraewyd gan yr awdur. Cafodd gwrychoedd ffug eu gosod a'u dadosod mewn tywyllwch dudew gyda chywirdeb a fyddai'n creu argraff ar Saethau Coch yr RAF dan gyfarwyddyd medrus Julie Walsh, sy'n adnabod pob modfedd o lwyfan JP hyd at y styllen fwyaf wichlyd. Ar ôl gwneud hynny i gyd, gellid llwyfannu’r sioe.
Am 7:30 ar ei ben ar ddydd Sadwrn yr 21ain o Chwefror pylodd y goleuadau ar gynulleidfa deilwng iawn, a phawb yn gwybod y byddai'r hyn yr oeddent ar fin ei weld yn berfformiad mor gaboledig ag y gallai fod gyda'r wefr ychwanegol o'r cyfan yn cael ei berfformio dan gyfyngiadau ymarfer annigonol, diffyg cwsg a dogn go dda o ofn llwyfan. Fel seren wib llawn adrenalin aeth y perfformiad rhagddo gyda phawb (bron) yn taro’r nod, yn dod i mewn yn gywir ac yn adrodd llinellau nad oeddent efallai bob amser yn berffaith o ran y mesur pumban ond a oedd serch hynny yn fodd o gario pob golygfa o un pwynt plot i'r llall.
Mae tocynnau i'r perfformiad bob amser am ddim, gydag aelodau'r gynulleidfa ond yn talu'r hyn maen nhw'n meddwl oedd gwerth y perfformiad, ac yn ffodus roedd y gynulleidfa hon yr un mor hael â'u harian ag y buont gyda’u chwerthin. Wrth i’r llen gau, daeth y sylweddoliad chwerwfelys i bawb a oedd yn rhan o’r sioe fod diwedd y perfformiad hefyd yn nodi diwedd wythnos aduniad wych arall. Unwaith i’r llwyfan wagio, gellid datgelu o’r diwedd fod y sioe wedi codi’r swm mwyaf erioed o £960 i’n helusennau, swm y gobeithiwn ni a gaiff effaith wirioneddol ar yr achosion y maent yn eu cefnogi.
Bydd y Project Shakespeare 48 Awr, a Hen Warchodlu Rostra yn dychwelyd yn 2027!"
Tim Cloke (Hanes Modern a Chyfoes, 2007)