Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, mae Dr Hollie Booth wedi bod yn cydweithio â Kebersamaan Untuk Lautan (KUL) – corff anllywodraethol llawr gwlad yn Indonesia y mae ei enw'n cyfieithu fel Gyda'n Gilydd dros y Cefnfor – i ddefnyddio Systemau Fideo Tanddwr Anghysbell gydag Abwyd (BRUVS) yn Ardal Gadwraeth Forol Aceh Jaya yn Nhalaith Aceh, Indonesia.
Yn gweithio ochr yn ochr â 4 pysgotwr lleol, ymchwilydd a myfyriwr o Brifysgol Syiah Kuala, a staff maes KUL Aceh, gosododd y tîm 150 o systemau BRUVS ar draws yr ardal gadwraeth (yn cwmpasu ± 50.105 hectar), yn casglu data ar nifer, amrywiaeth a dosbarthiad siarcod, morgathod a physgod riff. Mae'r tîm yn gobeithio'n arbennig y gallant gasglu data ar siarcod pen morthwyl bylchog a physgod lletem trwynbwl, sydd Mewn Perygl Difrifol, i lywio cynlluniau rheoli pysgodfeydd lleol ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Tîm KUL yn gweithio gyda physgotwyr, y Panglima Laot a myfyrwyr o Brifysgol Syiah Kuala yn defnyddio BRUVS ©Francesca Page.
Pam mae’r ardal hon yn bwysig?
Mae’r dyfroedd oddi ar arfordir Aceh Jaya yn rhan o Ardal Gorllewin Aceh sy’n Bwysig i Siarcod a Morgathod (ISRA), ardal a gydnabyddir yn fyd-eang yn un o'r cynefinoedd pwysicaf ar gyfer siarcod a morgathod sydd mewn Perygl Difrifol yn y rhanbarth. Mae'r rhywogaethau hynny – gan gynnwys pysgod lletem a siarcod pen morthwyl – yn wynebu pwysau difrifol oherwydd gorbysgota yn fyd-eang. Sefydlwyd Ardal Gadwraeth Forol Aceh Jaya i helpu i amddiffyn yr ecosystemau hynny, ond mae rheolaeth effeithiol yn dibynnu ar ddata da am yr hyn sy'n byw o dan yr wyneb a ble; statws eu poblogaethau; a sut mae gweithgarwch pysgota ar raddfa fach, sy'n hanfodol ar gyfer bywoliaeth leol, yn gorgyffwrdd ag ardaloedd sy’n gynefinoedd hollbwysig.
Chwith: Llong bysgota fechan yn defnyddio rhwyd yn nyfroedd ISRA Gorllewin Aceh. Dde: pysgodyn lletem sydd mewn Perygl Difrifol wedi ei glymu mewn rhwyd ddrysu. ©Francesca Page.
| |
Dyna lle mae BRUVS yn dod i mewn. Mae'r systemau camera tanddwr hyn yn defnyddio abwyd i ddenu bywyd morol, gan ganiatáu i ymchwilwyr gofnodi presenoldeb, amrywiaeth a nifer y rhywogaethau heb yr angen am samplu echdynnol. Yn hollbwysig, gall data BRUVS ddatgelu mannau gofodol-amserol pwysig – gan ddangos ble a phryd mae rhywogaethau allweddol fwyaf crynodedig – sef yn union y math o dystiolaeth sydd ei hangen i lywio penderfyniadau rheoli gofodol ac amserol.
Gwyddoniaeth gydweithredol ar gyfer gweithredu cadwraethol
Ymdrech ar y cyd oedd y gwaith hwn. Daeth pysgotwyr â'u gwybodaeth helaeth am ddyfroedd lleol – gan nodi safleoedd cynhyrchiol a llywio amodau heriol – tra bod ymchwilwyr wedi cyfrannu arbenigedd technegol wrth ddylunio a chasglu data BRUVS. Drwy gydweithio, fe wnaeth y tîm feithrin perchnogaeth a rennir o'r broses fonitro, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant hirdymor unrhyw raglen gadwraeth.
Dywedodd Ilham Fajri, ymchwilydd o Brifysgol Syiah Kuala a oedd yn rhan o'r gweithgarwch, "Mae'r dull cydweithredol hwn yn bwysig i sicrhau y gall canlyniadau ymchwil roi gwir gefnogaeth i reolaeth gynaliadwy o bysgodfeydd. Mae'r cydweithrediad hwn nid yn unig yn cynyddu gwybodaeth pysgotwyr lleol am fioamrywiaeth forol ond mae hefyd yn darparu manteision economaidd uniongyrchol i gymunedau arfordirol. Mae'r rhan fwyaf o'r logisteg a'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag arolwg BRUVS, o rentu cychod pysgotwyr ac adeiladu'r BRUVS, i osod a chofnodi data maes, yn cynnwys pysgotwyr lleol. Mae'r cydweithrediad hwn yn cyd-fynd â phrif amcan KUL o "ddiogelu bioamrywiaeth forol sydd mewn perygl wrth gynnal neu wella llesiant cymunedau arfordirol"."
Bydd y data BRUVS yn bwydo'n uniongyrchol i'r broses cynllunio rheolaeth ar gyfer yr Ardal Gadwraeth Forol y mae KUL yn ymwneud yn weithredol â hi, gan gydweithio ag Adran Materion Morol a Physgodfeydd (DKP) Aceh Jaya a sefydliad rheoli pysgodfeydd arferedig sy'n unigryw i Dalaith Aceh o'r enw Panglima Laot, sy'n cyfieithu i ‘Cadlywydd y Môr’.
Dywedodd Insyafrizal, Pennaeth yr Adran Gadwraeth yng Ngwasanaeth Morol a Physgodfeydd Aceh Jaya (DKP Talaith Aceh), “Mae'r data a geir drwy'r dull BRUVS yn ddefnyddiol iawn ar gyfer llywio asesiadau Gwerthuso Effeithiolrwydd Rheoli Ardaloedd Cadwraeth (EVIKA) yn ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig, a chynllunio gofodol morol ehangach sy'n seiliedig ar dystiolaeth”.
Yn benodol, bydd y canlyniadau'n helpu i lywio penderfyniadau ynghylch ehangu'r parthau dim-pysgota presennol, datblygu cynlluniau i gau dros dro yn ystod y prif dymor bridio, a gweithredu rheoliadau penodol i offer neu rywogaethau o fewn yr ardal gadwraeth ac fel rhan o ‘Hukom Adat Laot’ (rheolau rheoli pysgodfeydd traddodiadol) o dan y Panglima Laot.
Bydd yr arolwg BRUVS hefyd yn cael ei gyfuno â monitro parhaus o gychod pysgota gan ddefnyddio GPS a data monitro’r gyfradd dal siarcod a gesglir gan KUL a phartneriaid lleol, gan ddatblygu darlun cyfoethog ac integredig o sut mae gweithgarwch pysgota a bioamrywiaeth forol yn croestorri ar draws yr ardal, a'r hyn y gellir ei wneud i liniaru bygythiadau i siarcod a morgathod gan hefyd gefnogi bywoliaeth arfordirol.
Chwith: Siarc riff asgell ddu: un o'r rhywogaethau sydd i'w cael yn nyfroedd Aceh, y mae'r tîm yn gobeithio eu canfod yn eu harolwg BRUVS ©Hollie Booth. Dde: Grwper mawr sydd o bwys economaidd a ddaliwyd gan y BRUVS yn Aceh Jaya. Mae'r ddelwedd hefyd yn dangos rhai o'r heriau gwelededd sy'n gysylltiedig â defnyddio BRUVS mewn dyfroedd tywodlyd! ©Kebersamaan Untuk Lautan.
Edrych ymlaen: enillion o ran canlyniadau cadwraethol
Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i adolygu cannoedd o oriau o ddeunydd recordio BRUVS, cyfrif ac adnabod y rhywogaethau a ddaliwyd ar gamera, a throi'r wybodaeth yn fetrigau defnyddiol ar amrywiaeth a nifer y rhywogaethau.
Y tu hwnt i lywio rheolaeth ofodol, bydd y metrigau hyn yn galluogi KUL a DKP i fonitro cyflwr bioamrywiaeth forol yn Ardal Gadwraeth Forol Aceh Jaya, fel eu bod yn gwybod a yw ymdrechion cadwraeth yn llwyddo. Yn y pen draw, mae KUL hefyd yn gobeithio defnyddio'r data gwaelodlin hwn i dreialu dull arloesol o gadwraeth forol sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Y syniad yw sefydlu gwaelodlin o ran nifer ac amrywiaeth siarcod ac yna rhoi gwobrau i gymunedau arfordirol lle mae'r dangosyddion hynny'n cael eu cynnal neu eu gwella dros amser. Mae'r dull hwn yn cysylltu canlyniadau cadwraeth yn uniongyrchol â budd cymunedol, gan greu cymhellion cadarnhaol ar gyfer amddiffyn ecosystemau arfordirol a mabwysiadu arferion pysgota cynaliadwy, ac o bosibl yn paratoi'r ffordd ar gyfer mecanweithiau ariannu arloesol megis cynlluniau credyd bioamrywiaeth forol sy'n dod i'r amlwg.
Mae defnyddio BRUVS yn Aceh Jaya yn un enghraifft o'r dull cydweithredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd wrth wraidd ein partneriaeth â KUL a phartneriaid eraill yn Indonesia, a ariennir trwy grantiau gan y Gronfa Cadwraeth Siarcod (SCF) a'r Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF). Drwy gyfuno gwybodaeth leol â monitro gwyddonol, rydym yn cydweithio i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i amddiffyn rhai o’r rhywogaethau morol sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd wrth gefnogi bywoliaeth y cymunedau arfordirol sy'n rhannu eu dyfroedd.
Cefnogir y gwaith hwn gan grantiau gan y Gronfa Cadwraeth Siarcod a'r Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) trwy Brifysgol Bangor. Mae KUL hefyd yn dymuno cydnabod grantiau blaenorol gan y Gynghrair Cyllid Cadwraeth a Phrifysgol Deakin, a gefnogodd gaffael offer BRUVS, yn ogystal â hyfforddiant technegol mewn defnyddio BRUVS a dadansoddi data gan Dr Samm Sherman ac Isabel Black.