Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan, sef cydweithrediad rhwng heddluoedd Cymru, Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru a holl brifysgolion Cymru, wedi dyfarnu mwy na £78,000 i bedwar project ymchwil newydd, ac mae dau ohonynt yn cynnwys academyddion o Brifysgol Bangor.
Diben y cyllid, a gefnogir gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yw cefnogi ymchwil plismona o ansawdd uchel, a gyflwynir mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru, heddluoedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu eraill Cymru.
Mae'r projectau'n dwyn ynghyd arbenigedd academaidd a phrofiad plismona gweithredol i archwilio dulliau arloesol o wella hyder y cyhoedd, mynd i'r afael â niwed ar-lein a chryfhau ymarfer rheng flaen, gan ddarparu manteision pendant i gymunedau ledled Cymru.
Yn un o'r projectau, bydd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac arweinwyr Rheoli Troseddwyr Rhywiol a Throseddwyr Treisgar (MOSOVO) ledled Cymru, yn archwilio sut y gall gwasanaethau'r heddlu gefnogi hyder y cyhoedd ymhellach pan fydd unigolion yn ailsefydlu mewn cymunedau lleol.
Gan ddefnyddio cyfweliadau, astudiaethau achos a gweithdai cydweithredol, bydd yr ymchwil yn nodi dulliau effeithiol o gyfathrebu ac ymgysylltu, gyda'r nod o gryfhau ymarfer proffesiynol, hyrwyddo cysondeb ledled Cymru a chefnogi cymunedau.
Mae'r project arall yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys a bydd yn asesu effaith weithredol cyflwyno technoleg ymateb fideo GoodSAM i blismona.
Bydd yr ymchwil yn gwerthuso sut mae ymatebion fideo cyflym a gwell yn effeithio ar amseroedd ymateb, boddhad dioddefwyr, llwyth gwaith swyddogion a chanlyniadau cyfiawnder troseddol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig a dwyieithog, gyda'r potensial i wella mynediad at wasanaethau plismona a sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cefnogaeth amserol ac effeithiol.
Gyda'i gilydd, bydd y ddau broject hyn, a’r ddau broject arall dan arweiniad Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn bennaf, yn tynnu sylw at gryfder a gwerth cydweithio rhwng prifysgolion Cymru a phartneriaid ym maes plismona.
Drwy gyfuno arbenigedd ymchwil â mewnwelediad rheng flaen, mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn parhau i gefnogi arloesedd sy'n gwella diogelwch y cyhoedd, yn cryfhau perthnasoedd â chymunedau ac yn darparu buddion parhaol i bobl ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Martina Feilzer, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor a Chyd-gadeirydd Academaidd Grŵp Llywio Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan, “Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn dwyn ynghyd academyddion a sefydliadau’r heddlu mewn ymchwil gweithredol cydweithredol ledled Cymru gan gynnig mewnwelediadau a fydd yn hysbysu plismona lleol ac ymatebion i droseddu sy’n cael ei brofi yng nghymunedau Cymru. Mae ymchwilwyr yn ymateb i anghenion tystiolaeth yr heddlu ac yn cyd-ddylunio ymchwil gyda chydweithwyr yn yr heddlu mewn modd gwirioneddol gydweithredol, a bydd yr ymchwil sy’n cael ei ariannu yng Ngogledd Cymru a Dyfed Powys yn hysbysu plismona gweithredol er budd cymunedau lleol. Mae'n wych y gall Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan gyfrannu at gynhyrchu sylfaen dystiolaeth yr heddlu ar gyfer Cymru gan gydnabod bod plismona mewn cymunedau yng Nghymru yn gweithredu mewn tirwedd sy’n unigryw o ran heddlu, sector gwirfoddol a chymunedau.”
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, “Mae plismona cryf, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd a darparu gwasanaethau effeithiol i’n cymunedau. Drwy Gydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan, rydym yn gallu dwyn ynghyd arbenigedd prifysgolion Cymru a phrofiad ymarferol ein swyddogion heddlu i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Bydd y projectau hyn yn ein helpu i ddeall yn well beth sy'n gweithio, gwella sut rydym yn cefnogi dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau bod plismona ledled Cymru yn parhau i esblygu yn unol â bygythiadau sy'n dod i'r amlwg a disgwyliadau'r cyhoedd.
Cydweithrediad cenedlaethol yw Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan sy'n dwyn ynghyd bob un o bedwar heddluoedd Cymru, swyddfeydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a phrifysgolion ledled Cymru.
Nod y bartneriaeth yw adeiladu sylfaen gref sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plismona drwy gynyddu cydweithio academaidd yr heddlu, cefnogi ceisiadau ar y cyd am gyllid ymchwil allanol a rhannu arferion gorau ac ymchwil sy'n seiliedig ar bolisi.
Ers ei sefydlu, mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan wedi ariannu amrywiaeth o brojectau cydweithredol sy'n mynd i'r afael â heriau plismona allweddol, gan gynnwys cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a merched, a chynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona.
Ffocws presennol Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan ar gyfer 2024–2028 yw gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu. Caiff y cydweithrediad ei oruchwylio gan grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl randdeiliaid dan sylw.