Mae Cronfa Bangor wedi galluogi’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i gefnogi cyfres o fentrau arloesol dan arweiniad myfyrwyr drwy ei Gweithgor Cyflogadwyedd dan arweiniad Myfyrwyr.
Cefnogodd y cyllid ddau broject a gynlluniwyd i wella cyflogadwyedd, datblygu sgiliau ymarferol a chryfhau ymgysylltu cymunedol ymhlith myfyrwyr.
Canolbwyntiodd y cyntaf ar ymgysylltu cymunedol mewn partneriaeth ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Ym mis Mawrth, cymerodd 14 o fyfyrwyr ran mewn diwrnod gwirfoddoli, gan gyfrannu at blannu coed ar raddfa fawr wrth ddatblygu dealltwriaeth uniongyrchol o ymarfer cadwraeth a llwybrau gyrfa. Rhoddodd y daith brofiad ymarferol mewn lleoliad byd go iawn.
Dywedodd Andrew Smith, myfyriwr MScRes Daearyddiaeth a gwirfoddolwr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn,
Rhoddodd y diwrnod gwirfoddoli gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr weithio yn yr awyr agored, gan gyfrannu at wella cynefinoedd trwy blannu ar raddfa fawr, cysylltu â staff yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a chael profiad ymarferol o brojectau cadwraeth a chynaliadwyedd - gan eu helpu i ddeall llwybrau gyrfa posibl yn well.
Cefnogodd yr ail weithgaredd y gwaith o lansio cyfres o bodlediadau dan arweiniad myfyrwyr, gyda chyllid yn cael ei ddefnyddio i brynu offer recordio proffesiynol. Mae saith myfyriwr wrthi'n datblygu'r gyfres gyda mewnbwn gan gyn-fyfyrwyr, gyda lansiad ehangach wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi 2027. Mae'r project yn cael ei arwain yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr, gyda chyfranogwyr yn rhan o'r broses gwneud cais am gyllid hyd at y gwaith o gyflawni’r project, gan ennill profiad mewn cyllidebu, rheoli projectau a gwerthuso.
Fe wnaethom lansio ein podlediad cyntaf gyda’r cyn-fyfyriwr Mark Rigby (Amaethyddiaeth, 1979), a oedd yn brofiad gwerthfawr. Fe wnes i fagu hyder a gwella fy sgiliau cyfweld. Roedd clywed taith Mark o fod yn fyfyriwr i ddod yn Brif Swyddog Gweithredol yn ysbrydoledig, ac rydw i’n gyffrous i gyfweld â mwy o'n cyn-fyfyrwyr a bod yn rhan o bodlediad a fydd o fudd i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.
Megan Judge, myfyrwraig Ecoleg Bywyd Gwyllt a Chadwraeth
Roedd cael cyfweld â'r cyn-fyfyriwr, Ryan Eddowes (Swoleg a Herpetoleg, 2018) yn brofiad a agorodd ein llygaid i ba mor bwysig ydy ein cysylltiad ni â byd natur, o safbwynt iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal ag o safbwynt addysgol. Trwy drafod pa mor werthfawr a bregus ydy byd natur, a thrafod y cysylltiad sydd gennym ni â byd natur, fe gefais fy ysbrydoli i weithio hyd yn oed yn galetach i gael bod yn athro bioleg.
Isobel Barnes, Myfyrwraig ôl-radd MscRes Gwyddorau Biolegol
Dywedodd Dr Rebecca Jones, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol,
Ar draws y ddau weithgaredd, datblygodd y myfyrwyr sgiliau technegol a sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys cynhyrchu cyfryngau digidol, gwaith tîm, arweinyddiaeth ac ymgysylltu cymunedol. Diolch i gyn-fyfyrwyr am gefnogi Cronfa Bangor a gwneud y cyfleoedd hyn yn bosibl.
Cyllidir Cronfa Bangor gan roddion gan gyn-fyfyrwyr a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Ei phrif bwrpas yw ychwanegu gwerth at brofiad myfyrwyr.
Dysgwch ragor am Gronfa Bangor