Digwyddiad gyrfaoedd cyfreithiol yn ysbrydoli disgyblion gogledd Cymru
Yr wythnos diwethaf, croesawodd y Brifysgol bron i 300 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o bob cwr o ogledd Cymru i ddigwyddiad gyrfaoedd cyfreithiol dwyieithog a gynlluniwyd i godi dyheadau a hyrwyddo cyfleoedd yn y rhanbarth.
Datblygwyd y digwyddiad gan yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas mewn partneriaeth â'r farnwriaeth leol a Gyrfa Cymru, gyda chefnogaeth gan y rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a ariannodd gludiant i ysgolion a oedd yn cymryd rhan. Y nod oedd annog disgyblion i ystyried gyrfaoedd ym maes y gyfraith, ac yn bwysicach fyth, i archwilio llwybrau a fyddai’n eu galluogi i adeiladu’r gyrfaoedd hynny yng ngogledd Cymru.
Un o brif bynciau’r diwrnod oedd gwerth sgiliau Cymraeg yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae cyflogwyr ar draws y sector yn adrodd am heriau parhaus wrth recriwtio cydweithwyr Cymraeg eu hiaith, ac roedd y sesiynau’n mynd ati i amlygu manteision gweithio'n ddwyieithog.
Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai rhyngweithiol a gyflwynwyd gan uwch aelodau o'r farnwriaeth, cyfreithwyr, bargyfreithwyr, y gwasanaeth carchardai, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu Gogledd Cymru. Gan ddefnyddio achos llofruddiaeth go iawn o Wrecsam, dilynodd y disgyblion drywydd ymchwiliad, gan ddysgu sut mae gwahanol weithwyr proffesiynol yn cyfrannu ym mhob cam.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys ffug gais am fechnïaeth, ymarferion croesholi, a sesiwn ar ddedfrydu ac adsefydlu. Anogwyd disgyblion i gymryd rhan, gan ennill profiad uniongyrchol o brosesau cyfreithiol. Profodd arddangosiad cŵn heddlu i fod yn arbennig o boblogaidd hefyd.
Daeth y diwrnod i ben gyda sgwrs gan Farnwr yr Uchel Lys, Syr Matthew James Nicklin FRSA, a rannodd fewnwelediadau o'i yrfa ym maes y gyfraith.
Dywedodd Tracey Horton, uwch ddarlithydd yn y gyfraith, “Roedd yn her go iawn ffitio cymaint o sesiynau i mewn i un diwrnod, ond roedd yn bwysig rhoi cipolwg eang i ddisgyblion ar y gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector cyfreithiol. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, ac roedd y disgyblion wrth eu boddau. Gobeithiwn y bydd y profiad yn eu hysbrydoli i ystyried addysg bellach a gyrfaoedd yn y gyfraith yn y dyfodol.”
Mynychodd Mr Ustus Matthew Nicklin y digwyddiad a traddododd araith i’r disgyblion, gan ddweud:
“Mae’n gwbl hanfodol bod y proffesiwn cyfreithiol a’r farnwriaeth yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae system gyfiawnder yn gryfach, yn decach ac yn fwy effeithiol pan fydd yn tynnu ar yr ystod ehangaf bosibl o dalent a phrofiad. Yng Nghymru, mae’n rhaid i hynny gynnwys annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr, barnwyr ac ynadon Cymraeg eu hiaith. Mae digwyddiadau o’r fath yn chwarae rhan bwysig wrth ehangu gorwelion, ysbrydoli uchelgais a helpu pobl ifanc i weld bod gyrfa yn y gyfraith, neu o fewn y system gyfiawnder yn ehangach, ar gael iddynt.”