Tŷ Sker yn Ennill Gwobr RICS
Wedi'i ddisgrifio fel 'un o brif dai Elisabethaidd De Cymru', mae Tŷ'r Sger yn sefyll ar ei ben ei hun ar bentir creigiog sy'n ymwthio allan i Fae Abertawe, tua thair milltir o Borthcawl. Nid oedd yr ugeinfed ganrif yn garedig i'r adeilad hwn, a dirywiodd ei gyflwr i'r fath raddau nes i un adain gwympo lawr yn llwyr. Ond daeth trobwynt ym 1999, pan gamodd yr awdurdod lleol ac ymddiriedolaeth cadwraeth adeiladau i mewn i'w achub. Dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae Sger wedi cael adferiad rhyfeddol ac mae unwaith eto'n cael ei ddefnyddio fel tŷ breifat. Deud y gwir, mae wedi cael gwedd newydd gyda'i wyngalch melyn llachar. Yn gynharach y mis hwn, cydnabuwyd y prosiect adfer gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), pan gafodd ei enwi'n enillydd yng nghategori Treftadaeth Cymru yn eu gwobrau blynyddol. Yn y blog hwn, dysgwch fwy am hanes ac arwyddocâd y tŷ a'r prosiect adfer arobryn a'i hachubodd.
Mae hanes y safle arfordirol hwn yn dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif, pan sefydlodd y fynachlog Sistersaidd yn Abaty Margam faenor fynachlogaidd yma, er iddi gael ei throsglwyddo'n fuan i Abaty Nedd mewn cyfnewid tir. Yn dilyn diddymu'r mynachlogydd, daeth y faenor i berchnogaeth breifat a chafodd ei drawsnewid yn dŷ.
Am ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan fwyaf o'r ail ganrif ar bymtheg, roedd y Sger ym meddiant teulu Turberville. Mae Tŷ presennol y Sger yn ganlyniad i ailfodelu mawr gan Jenkin Turberville yn chwarter olaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwelodd yr ailfodelu hwn ychwanegu ail lawr at adeilad presennol, yn ogystal ag ychwanegu sawl ychwanegiad aml-lawr, gan gynnwys tŵr grisiau, sydd oll yn rhoi golwg aml-dalcennog i'r tŷ. Roedd y teulu Turberville yn adnabyddus fel reciwsantiaid, a gafodd sawl aelod eu dirwyon a'u carcharu; cafwyd un aelod yn euog o roi lloches i offeiriad Jeswit yma.
Gwerthodd teulu Turberville Dŷ Sker tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, pan basiwyd ef i gyfres o landlordiaid absennol a'i renti i denantiaid. Ar un llaw, roedd y ffaith bod y tŷ dan denantiaeth yn golygu na chafodd ei newid na'i foderneiddio'n sylweddol; ar y llaw arall, heb landlord preswyl, dirywiodd cyflwr y tŷ yn gyflym.
Cydnabuwyd arwyddocâd pensaernïol a chymdeithasol Tŷ’r Sger yn ffurfiol ym 1952, pan gafodd ei ddynodi’n Radd I gan Cadw. Fodd bynnag, methodd y perchennog preifat â chynnal a chadw’r adeilad a dechreuodd ddadfeilio. Ym 1999, camodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i mewn a chyhoeddi gorchymyn prynu gorfodol, gan drosglwyddo perchnogaeth i’r 'Buildings at Risk Trust'.
Yr hyn a ddilynodd oedd prosiect adfer mawr, gwerth £1.2 miliwn rhwng 1999 a 2003, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac a arweiniwyd gan y practis pensaernïol lleol Davies Sutton Architects. Un o agweddau allweddol y prosiect hwn oedd adfer y Neuadd Fawr o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ar y llawr cyntaf. Mae hwn yn ofod tal, trawiadol gyda sgrin bren, nenfwd plastr gogwydd, a ffris o ddreigiau, adar, a chlystyrau o rawnwin. Yn ystod y cyfnod hwn y cafodd y Sker ei beintio'n felyn. Yn ôl y pensaer cadwraeth Michael Davies o Davies Sutton Architects, penderfynnwyd adfer "tua 90%" o'r tŷ, er mwyn caniatáu i'r perchennog newydd roi ei stamp ei hun ar y lle.
Yn 2003, prynwyd Tŷ Sker gan hanesydd ac academydd Prydeinig-Americanaidd. Yn 2024, bu’n gweithio gyda Michael Davies a’r syrfëwr James Christian o’r ymgynghoriaeth adeiladu a dylunio RPA i drawsnewid adain adfeiliedig olaf y tŷ yn llyfrgell dair stori, a thrwy hynny gwblhau’r gwaith adfer.
Nawr mae'r holl waith caled hwn wedi'i gydnabod gyda gwobr fawreddog. Bob blwyddyn, mae Gwobrau RICS UK yn tynnu sylw at y bobl a'r prosiectau mwyaf ysbrydoledig sy'n llunio'r amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae ffocws arbennig ar rôl syrfewyr siartredig wrth wireddu'r prosiectau hyn. Mae'r gwobrau'n cychwyn ar lefel ranbarthol, a chynhaliwyd Seremoni Ranbarthol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mercher, 8fed Gorffennaf 2026. Eleni, roedd y categori Treftadaeth yn cynnwys tri phrosiect arbennig, sef Tŷ'r Sger, Prosiect Adfywio Castell Caerffili, a Thŵr Cloc Rhuthun. Er i Gastell Caerffili gael canmoliaeth uchel, enillodd Tŷ'r Sger y wobr, a bydd nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol RICS UK ym mis Hydref 2026.
Mae Tŷ’r Sger, yn ei leoliad rhamantus, ynysig ymhlith y twyni tywod, wedi bod yn dal dychymyg awduron ac artistiaid ers canrifoedd. Bu’n ysbrydoliaeth i nofel R. D. Blackmore o 1872, The Maid of Sker, a nofel gyffro Ronald Welch o 1955, Sker House; yn ddiweddar, fe’i defnyddiwyd fel lleoliad i’r gemau fideo ‘Maid of Sker’ a ‘Sker Ritual’. Mae’n hyfryd gweld Tŷ’r Sger wedi’i adfer i’w ogoniant blaenorol, yn parhau i gyffroi ac ysbrydoli pobl, ac yn awr yn ennill gwobrau. Gobeithiwn y bydd yn ysbrydoliaeth i brosiectau adfer tebyg yng Nghymru yn y dyfodol.
(Gan Dr Bethan Scorey)