Mae astudiaeth newydd, dan arweiniad Dr Manuel Esperon-Rodriguez, ecolegydd trefol ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyhoeddi rhybudd yng nghanol haf pan mae ton wres eithafol wedi effeithio ar Ewrop, gan dorri cofnodion tymheredd ar draws y cyfandir.
Mae’r papur, a gyhoeddwyd gan Public Library Science, yn dadlau bod un o'n ffurfiau mwyaf effeithiol ar seilwaith hinsawdd yn cael ei golli er bod dinasoedd yn dod dan straen cynyddol oherwydd tymereddau byd-eang yn codi.
Mae'n dadlau bod buddsoddiad uniongyrchol a chynaliadwy ynghyd â mesurau diogelu dan y gyfraith yn hanfodol i ddiogelu coedwigoedd trefol, sy'n cynnwys coed unigol a choetiroedd mewn dinasoedd, trefi a maestrefi, a heb newidiadau allweddol i'r ffordd y cânt eu rheoli, bydd y manteision ecolegol, cymdeithasol ac economaidd a ddarparant yn parhau i fod dan fygythiad.
Meddai Dr Manuel Esperon-Rodriguez, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, “Mae pwysigrwydd 'seilwaith llwyd' fel ffyrdd, pontydd a systemau dŵr wedi cael ei gydnabod ers tro byd. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd natur drefol yn cael ei anwybyddu bron yn llwyr. Felly, er bod 'seilwaith llwyd' yn cael ei lywodraethu gan safonau peirianneg oherwydd bod cymdeithas yn cydnabod bod diogelwch y dibynnu ar lawer mwy na bwriadau da yn unig, nid oes safonau cyfatebol ar waith ar gyfer natur drefol. Mae'n amlwg bod coedwigoedd trefol yn fwy na phethau tlws i edrych arnynt. Maent yn cefnogi gweithrediad a gwasanaethau ecosystem sy’n hanfodol i sicrhau dinasoedd iach a gwydn.”
Mae'r papur yn nodi pedwar bwlch cydgysylltiedig mewn rheolaeth a stiwardiaeth coedwigoedd trefol ar hyn o bryd:
- Mae angen cydnabyddiaeth, buddsoddiad a chynnal a chadw ar goedwigoedd trefol fel seilwaith hanfodol sy'n cyfrannu at wydnwch trefol.
- Rhaid sicrhau mynediad teg i fannau gwyrdd i bob cymuned er mwyn unioni anghyfiawnderau cymdeithasol ac amgylcheddol hirsefydlog.
- Mae integreiddio coedwigoedd trefol i fframweithiau llywodraethu hinsawdd a bioamrywiaeth ehangach yn hanfodol i brif ffrydio eu rheolaeth a'u gwarchodaeth.
- Rhaid cryfhau gwydnwch trwy arferion rheoli ar sail tystiolaeth sy'n ymatebol i newidiadau amgylcheddol a chyd-destunau cymdeithasol sy'n newid.
Rhaid ategu'r blaenoriaethau hyn â mesurau diogelu cyfreithiol cryf, gorfodi deddfwriaeth yn gadarn yn erbyn torri coed yn anghyfreithlon, ac ymgysylltu cymunedol cadarn ar sail cynllunio trefol integredig a monitro gwell.
Meddai Dr Manuel Esperon-Rodriguez, “Mae cydnabod coedwigoedd trefol fel seilwaith craidd yn hanfodol i wrthdroi colli coed aeddfed, gwarchod bioamrywiaeth a chynnal bywiogrwydd dan bwysau hinsoddol ac amgylcheddol cynyddol. Er bod llawer yn cydnabod manteision coedwigoedd trefol ar gyfer gwydnwch yn erbyn hinsawdd, bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd, mae polisïau i ddiogelu a gwella'r ecosystemau hanfodol hyn yn aml yn gyfyngedig, yn dioddef o ddiffyg ariannu ac yn cael eu gweithredu’n annigonol. Mae’n rhaid rhoi sylw i hyn fel mater o frys. Trwy ddechrau trin coedwigoedd trefol fel seilwaith byw hanfodol wedi ei wreiddio mewn fframweithiau cyfreithiol, ariannol a chynllunio, gall dinasoedd fod yn oerach yn ystod cyfnodau poeth, yn iachach, yn fwy bioamrywiol, ac yn fwy cymdeithasol gyfiawn. Mae'r fframwaith rydym wedi ei greu yn cynnig canllawiau amserol i lunwyr polisi flaenoriaethu coedwigoedd trefol mewn strategaethau gwydnwch hinsawdd a chynaliadwyedd, gan sicrhau manteision i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol."