Mae’r ymchwilwyr, gan gynnwys yr Athro Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyhoeddi papur sy'n ymchwilio i’r "tonnau gwres cyfansawdd" hyn yn Nature Geoscience.
Diffinnir ton wres fel cyfnod estynedig o dywydd poeth sydd y tu hwnt i'r amodau disgwyliedig yn yr ardal ar yr adeg honno o'r flwyddyn.
Wrth i donnau gwres sy’n torri pob record amharu ar systemau dŵr, ynni a bwyd byd-eang, bu i’r astudiaeth ddadansoddi 796 o fasnau afonydd yn yr Unol Daleithiau a chanolbarth Ewrop i ddarganfod beth sy’n digwydd.
Trwy gyfuno data am ansawdd dŵr â model dysgu deallusrwydd artiffisial, bu iddynt ddarganfod bod achosion o donnau gwres cyfansawdd wedi cynyddu tua 0.40 pob degawd ers y 1980au. Ddeugain mlynedd yn ôl, roedd yr achosion hyn yn digwydd llai nag unwaith y flwyddyn ar gyfartaledd. Heddiw, maent yn digwydd fwy na dwywaith y flwyddyn, sy'n golygu eu bod yn digwydd tua thair gwaith yn amlach.
Mae'r duedd hon yn cyd-fynd â dwysâd yn nifer y tonnau gwres mewn afonydd, sydd wedi cynyddu mewn amlder (114%), hyd (148%) a dwyster (95%) rhwng 1981–1990 a 2010–2019, gan newid yn llawer cyflymach na thonnau gwres atmosfferig.
O gymharu â thonnau gwres ynysig mewn afonydd, mae tonnau gwres cyfansawdd yn achosi cynnydd ychwanegol o 16% yn nhymheredd y dŵr a gostyngiad pellach o 2.9% mewn ocsigen toddedig. Mae'r astudiaeth yn rhybuddio y bydd 98.5% o donnau gwres mewn afonydd yn cyd-ddigwydd â thonnau gwres yn yr atmosffer erbyn 2100 mewn senario o allyriadau uchel.
Meddai’r Athro Iestyn Woolway, “Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn tynnu sylw at y bygythiadau cynyddol o donnau gwres cyfansawdd i ecosystemau dŵr croyw a’r angen i’w cynnwys mewn asesiadau risg dŵr yn y dyfodol. Mae recordiau tymheredd byd-eang yn parhau i gael eu torri, gan ddwysáu risgiau tonnau gwres i iechyd y cyhoedd, seilwaith ynni ac economïau byd-eang. Mae tonnau gwres atmosfferig yn digwydd yn amlach, yn para'n hwy ac yn fwy dwys ledled y byd.
“Mae tystiolaeth ddiweddar, gan gynnwys ton wres ddwys 2024 ar draws gorllewin yr Unol Daleithiau, yn dangos potensial cynyddol tonnau gwres atmosfferig i waethygu’r risg o danau gwyllt ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Wrth i gynhesu hinsawdd barhau, rhagwelir y bydd tonnau gwres yn yr atmosffer yn cynyddu ymhellach, gan wneud tonnau gwres yn nodwedd gynyddol o risgiau hinsawdd yn y dyfodol. Mae afonydd yn sensitif iawn i newid hinsawdd. Os bydd afonydd yn cynhesu’n ormodol, gall hyn fygwth bywyd dyfrol, amharu ar fetabolaeth ecosystemau a gwaethygu llygredd cemegol.
Mae’r sefydliadau eraill sy'n rhan o'r astudiaeth yn cynnwys Prifysgol Hohai, Nanjing, y Weinyddiaeth Adnoddau Dŵr, Tsieina, Prifysgol Yangzhou, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina, Academi Gwyddorau Tsieina, University of California, UDA a Phrifysgol Utrecht, yr Iseldiroedd.
Cyfrannodd pob awdur yn gyfartal at y gwaith.