Croeso i'r Athro Andrew Thomas, Deon Ysgol Fusnes Albert Gubay
Mae’r Athro Andrew Thomas wedi ei benodi’n Ddeon Ysgol Fusnes Albert Gubay. Daw i Brifysgol Bangor o Brifysgol Abertawe lle'r oedd yn Ddeon Ysgol Reolaeth Abertawe. Mae hefyd yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Thomas yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli’r gadwyn gyflenwi, rheoli projectau, strategaethau gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi denu dros £12 miliwn mewn cyllid ymchwil a chyllid masnachol, wedi cyhoeddi dros 250 o erthyglau ymchwil, gan gynnwys; papurau mewn cynadleddau, adroddiadau i’r llywodraeth a phrif anerchiadau, ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda phartneriaid yn y maes academaidd, mewn llywodraeth ac mewn diwydiant. Mae'n Gymrawd y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hefyd yn Beiriannydd Siartredig.
Mae'r Athro Thomas wedi goruchwylio ac arwain pump ar hugain o brojectau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ac amryw o fentrau ymchwil a ariannwyd drwy ERDF, ESRC, EPSRC, EU FP7, Horizon 2020 ac Innovate UK. Yn ychwanegol at yr hyn y mae wedi ei gyflawni’n academaidd ac o ran ymchwil, ef yw Cadeirydd Consortiwm Penaethiaid Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y Deyrnas Unedig (COMEH) ar hyn o bryd ac mae’n aelod o Gyngor yr Athrawon Peirianneg (EPC UK).
“Mae’n anrhydedd cael dechrau yn fy swydd fel Deon Ysgol Fusnes Albert Gubay a chael y cyfle i weithio ochr yn ochr â chymuned o staff sydd mor dalentog ac yn llawn ymroddiad. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â chydweithwyr ar draws yr Ysgol a'r Sefydliad wrth i ni adeiladu ar ein cryfderau, croesawu cyfleoedd newydd, a gweithio’n barhaus i wella perfformiad, effaith a llwyddiant ein myfyrwyr a'n partneriaid.”