Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru 2026
Mae cofrestru nawr ar agor!
Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru (#WEEN26) yw cynhadledd flynyddol a drefnir gan fyfyrwyr, wedi'i chynllunio i hyrwyddo ymchwil ôl-raddedig ym maes ecoleg ac esblygiad, yn ogystal ag ymchwil ehangach ar draws y biowyddorau a'r gwyddorau amgylcheddol.
Manylion y Digwyddiad:
📅 11–13 Tachwedd 2026
📍 Adeilad Reichel, Prifysgol Bangor
💰 £60 (yn cynnwys cinio canol dydd, cinio gyda'r nos, a lluniaeth)
📝 Cofrestrwch yn: https://ween.wales/
🕓 Mae'r cyfnod cofrestru yn cau am 00:00 ddydd Gwener 23 Hydref 2026
Eleni, am y tro cyntaf, mae'r gynhadledd yn dod i'r Gogledd, i Fangor! Os ydych yn ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa (ECR), dewch i ymuno â ni! Mae WEEN yn agored i bob ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys myfyrwyr PhD, MSc, yn ogystal â staff ymchwil a thechnegol.
Mae gennym raglen gyffrous o siaradwyr gwadd, gan gynnwys Dr Svenja Tidau, Dr Jessica Kevill, a Dr Alex Georgeiv, ynghyd â gweithdai, sgyrsiau gan wahoddedigion (gan gynnwys Platfform Amgylchedd Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru), a digwyddiadau cymdeithasol eleni (gan gynnwys cwis enwog WEEN!).
Ar gyfer cofrestru neu gyflwyno crynodeb, ewch i: https://ween.wales/
Yn ogystal, os oes angen mwy o amser arnoch i benderfynu ar y math o gyflwyniad yr hoffech ei roi, neu i gwblhau eich crynodeb, peidiwch â phoeni! Gallwch brynu eich tocyn nawr a chwblhau'r ffurflen gofrestru yn nes ymlaen.
Dilynwch ni ar Instagram: @ween_wales, Facebook neu LinkedIn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag aelodau pwyllgor trefnu lleol eleni:
Rande: r.dzay@bangor.ac.uk
Cara: cara.roberts@bangor.ac.uk