Perfformiad cryf i bynciau’r Celfyddydau a’r Dyniaethau yn University Guide 2027 y Guardian
Mae staff yn Ysgol newydd y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu perfformiad cryf yn University Guide 2027 y Guardian, gyda thri maes pwnc yn sicrhau safleoedd arbennig o uchel yn genedlaethol.
Mae Ieithoedd ac Ieithyddiaeth yn 4ydd yn y DU, tra bod Hanes yn 9fed a Ffilm a’r Cyfryngau yn 15fed. Mae’r canlyniadau’n gydnabyddiaeth galonogol o ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr ar draws y meysydd pwnc hyn, sy’n rhan bwysig o Ysgol newydd y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Mae University Guide y Guardian yn rhestru prifysgolion ar draws ystod eang o feysydd pwnc unigol, gan ddefnyddio mesurau sy’n cynnwys boddhad myfyrwyr â’r addysgu ac adborth, cymarebau myfyrwyr i staff, cyfraddau parhau â’u hastudiaethau, gwerth ychwanegol a rhagolygon gyrfa graddedigion. Felly, mae’r tablau pwnc yn rhoi arwydd pwysig o brofiad myfyrwyr o’u gradd a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau.
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau:
“Mae hyn yn newyddion gwych wrth inni sefydlu Ysgol newydd y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n gydnabyddiaeth wych o ansawdd ein haddysg yn y pynciau hyn, gan gystadlu â’r gorau o brifysgolion Grŵp Russell ledled y DU.”
Mae staff ar draws yr Ysgol yn falch iawn o weld ansawdd eu gwaith yn cael ei gydnabod yn y safleoedd cenedlaethol hyn. Mae’r canlyniadau’n ddechrau calonogol wrth i’r Ysgol newydd ddod â chyfres amrywiol o bynciau, disgyblaethau ac arbenigeddau ynghyd, gyda chyd-ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.