Myfyrwyr yn treulio 10 diwrnod yn ystâd Knepp ar gwrs maes ail-wylltio cyntaf yr ysgol.
Teithiodd saith myfyriwr i ystâd Knepp yng ngorllewin Sussex ym mis Awst i gymryd rhan mewn cwrs maes newydd ar safle Operation Wallacea <https://www.opwall.com/expeditions/field-course/field-skills-5-days/>. Cyfunodd yr wythnos gyntaf hyfforddiant mewn dulliau arolygu ecolegol â theithiau tywys o amgylch yr ystâd, gan roi golwg manwl i fyfyrwyr ar y project ail-wylltio iseldir mawr cyntaf yn Lloegr a dysgu sgiliau cyflogadwyedd pwysig ar yr un pryd.
Neilltuwyd y tri diwrnod olaf i waith dan arweiniad myfyrwyr. Gan weithio mewn grwpiau bach, cynlluniodd a chynhaliodd myfyrwyr eu projectau ymchwil bach eu hunain, pob un yn edrych ar agwedd ecolegol wahanol ar ail-wylltio ystâd Knepp. Roedd y projectau'n amrywio o astudio sut mae gwahanol gynefinoedd ar ystâd Knepp yn effeithio ar ymddygiad moch Tamworth i effeithiau afancod ar gymunedau planhigion, pryfed ac adar.
Ni chawsom ein siomi gan y bywyd gwyllt. Gwelodd y myfyrwyr afancod ac anifeiliaid mwyaf yr ystâd, sef gwartheg hirgorn, moch Tamworth, merlod Exmoor, ceirw cochion a hyddod brith. Gwelwyd brithbriniau brown a brithribiniau w wen ochr yn ochr â niferoedd da o lydfelynion, a gwelwyd a chlywyd eosiaid a thurturod ar y safle. Cafodd y myfyrwyr gyfle i weld rhywogaethau adar ac ystlumod yn agos yn ystod sesiynau modrwyo a thrwy gydol yr wythnos gwelwyd cyfartaledd o dros hanner cant o rywogaethau adar bob dydd.
Roedd y daith hefyd yn cyd-daro â rhyddhau hanner cant o giconiaid gwyn ifanc ar yr ystâd, a dreuliodd y prynhawn yn cylchdroi uwchben y gwersyll yn dal thermolau; golygfa ysblennydd a oedd yn debyg i gorwynt o giconiaid.
Meddai Dr Leejiah Dorward a arweiniodd y cwrs:
Cafodd y myfyrwyr fudd mawr o’r daith. Mae gweld ail-wylltio ar y raddfa hon, a dylunio eu projectau ymchwil eu hunain yn seiliedig ar y dulliau a'r ddamcaniaeth a ddysgwyd yn ystod y cwrs, yn rhoi sylfaen ymarferol iddynt mewn ecoleg maes, cadwraeth a sgiliau ymchwil sydd y tu hwnt i'r hyn y gallant ei ddysgu o lyfrau neu ddarlithoedd!