Dathlu Gŵyl Ganol yr Hydref: Llusernau bach, darganfyddiadau mawr!
Yr wythnos ddiwethaf, dathlodd ein hysgolion partner Ŵyl Ganol yr Hydref gyda gwersi Mandarin bywiog a gweithdai creadigol dan arweiniad Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
O ddarganfod traddodiadau’r ŵyl a dysgu geiriau Tsieinëeg newydd i wneud llusernau cwningen a nodau tudalen lliwgar, mwynhaodd y disgyblion gyfleoedd i ddysgu, creu a dathlu gyda’i gilydd.
Roedd eu brwdfrydedd a’u chwilfrydedd yn gwneud y gweithdai hyn yn bleser, gan ddangos sut y gall dysgu iaith agor drysau i ddiwylliannau newydd a phrofiadau sy’n dod â phobl ynghyd.
Diolch i’n tiwtoriaid a’n hysgolion partner am ysbrydoli ein dysgwyr ifanc a dod â’r dathliadau hyn i’r ystafell ddosbarth.