Lansiad Rhythms of Life i Staff yn Dod ag Ymchwilwyr o Bob Cwr o Brifysgol Bangor at ei Gilydd
Ar 30 Medi 2026, cynhaliodd Rhaglen Ysgoloriaethau Doethurol Leverhulme Rhythms of Life Prifysgol Bangor ei digwyddiad lansio i staff, gan ddod â dros 80 o gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol at ei gilydd i archwilio cyfleoedd ar gyfer ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol.
Croesawodd y digwyddiad staff o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Gwyddorau Eigion, Gwyddorau Iechyd, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon, gan adlewyrchu natur ryngddisgyblaethol eang y rhaglen.
Agorodd Dr Amy Ellison y digwyddiad gyda chyflwyniad i Rhythms of Life, gan amlinellu nodau’r rhaglen, y cyfleoedd sydd ar gael a’r prosesau ar gyfer datblygu a dethol prosiectau PhD.
Rhoddodd y siaradwr gwadd, Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Cymru ac arweinydd Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru (Prosiect Nos), drosolwg hynod ddiddorol o’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ymchwilio i effeithiau llygredd golau ledled Cymru a’u lliniaru. Amlygodd y cyflwyniad gyfleoedd cyffrous i’r Bartneriaeth a Phrifysgol Bangor gydweithio, yn enwedig er mwyn deall sut mae golau artiffisial yn ystod y nos yn effeithio ar rythmau biolegol ac amgylcheddol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda gweithgareddau rhwydweithio rhyngweithiol, gan roi cyfle i gydweithwyr ddarganfod diddordebau ymchwil cyffredin, rhannu arbenigedd a meithrin cysylltiadau newydd rhwng ysgolion academaidd. Roedd y trafodaethau hyn yn fan cychwyn gwerthfawr ar gyfer ffurfio timau goruchwylio rhyngddisgyblaethol a datblygu syniadau arloesol ar gyfer prosiectau PhD sy’n cyd-fynd â themâu Rhythms of Life.
Dangosodd y nifer fawr a ddaeth i’r digwyddiad a’r brwdfrydedd a welwyd ynddo ehangder yr arbenigedd sydd ar gael ar draws Prifysgol Bangor, yn ogystal â’r potensial cyffrous i feithrin cydweithrediadau newydd drwy raglen Rhythms of Life.