Ar 14 Hydref, croesawodd Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol Prifysgol Bangor (Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau), mewn cydweithrediad â'r Institut français, tua 40 o ddisgyblion ysgolion uwchradd i Neuadd Reichel ar gyfer Francophonie on the Road, a ddaeth i Gymru am y tro cyntaf erioed.
Bu pedwar awdur a darlunydd Ffrengig enwog - Magali Le Huche, Aurore Petit, Benjamin Chaud a Roland Garrigue - yn ymgysylltu â'r disgyblion drwy sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol yn Ffrangeg, ac yna gweithdai creadigol yn archwilio adrodd straeon a darlunio. Cafodd myfyrwyr Ffrangeg Prifysgol Bangor gyfle hefyd i gwrdd â'r awduron, ymarfer eu sgiliau iaith ac archwilio llwybrau gyrfa creadigol.
Dywedodd Anne-Lise Gallay, Attaché Iaith Ffrangeg yn Llysgenhadaeth Ffrainc yn y DU/Institut français du Royaume-Uni:"Rydym wrth ein bodd bod Francophonie on the Road wedi gallu dod i Gymru am y tro cyntaf erioed.Mae Francophonie on the Road yn brosiect pwysig iawn i'r Institut français du Royaume-Uni, gan ei fod yn ein galluogi i roi cyfle i fyfyrwyr y tu allan i Lundain gael profiad rhyngwladol ac i hyrwyddo dysgu'r iaith Ffrangeg a diwylliannau Ffrangeg eu hiaith mewn ffordd hwyliog, arloesol a rhyngweithiol.Rwy'n credu bod Magali Le Huche, Aurore Petit, Benjamin Chaud a Roland Garrigue wedi llwyddo i wneud hyn drwy rannu eu straeon. Gwnaeth rhyddid y myfyrwyr wrth ddarlunio a'u creadigrwydd argraff fawr arnynt hefyd.Hoffwn ddiolch unwaith eto i Brifysgol Bangor am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Gobeithiwn allu dychwelyd yn fuan iawn."
Dywedodd Nathalie Thomas, Swyddog Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol: "Mae dod â dysgu ieithoedd yn fyw drwy greadigrwydd ac adrodd straeon yn helpu i feithrin hyder ac yn dangos i bobl ifanc y gall ieithoedd fod yn gyffrous ac yn bleserus."
Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn, gydag un disgybl yn disgrifio'r digwyddiad fel "Profiad hwyliog iawn. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Ffrangeg, Celf neu'r ddau." Ychwanegodd athro fod y profiad wedi "agor byd newydd iddynt."
Ychwanegodd Rubén Chapela-Orri, Swyddog Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol: "Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos gwerth dod â phrifysgolion, ysgolion a phartneriaid rhyngwladol ynghyd. Gobeithiwn barhau i greu cyfleoedd sy'n ysbrydoli pobl ifanc i astudio ieithoedd ac archwilio'r llwybrau diwylliannol a gyrfaol y gallant eu hagor."
Hoffai'r tîm ddiolch i'r Institut français, yr awduron a'r darlunwyr a ymwelodd â ni, a'r holl ysgolion a gymerodd ran am wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant!