Dod ag Opera Beijing yn Fyw: Gweithdy Creadigol Paentio Masgiau!
Daeth ein Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd diweddaraf â sblash o liw i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor gyda gweithdy paentio masgiau Opera Beijing.
Roedd yn braf croesawu myfyrwyr a staff o bob rhan o Brifysgol Bangor i gael cyflwyniad creadigol i’r traddodiad hwn ym myd y celfyddydau perfformio Tsieineaidd.
Gyda’n gilydd, fe wnaethom ddarganfod sut mae’r lliwiau a’r patrymau a ddefnyddir yn Opera Beijing yn rhoi cliwiau am bersonoliaeth a rôl cymeriad. Yna, aethom ati i roi cynnig arni ein hunain, gan godi ein brwshys paent ac addurno masgiau bach â’n dewis ein hunain o liwiau a manylion.
Roedd gan bawb fasg i fynd adref ag ef, ynghyd ag ychydig mwy o ddealltwriaeth o’r traddodiad Tsieineaidd unigryw hwn. Diolch i bawb a ymunodd â ni ac a rannodd eu creadigrwydd!