Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Powis i archwilio sut y caiff crefydd ei chynrychioli, ei deall a’i thrafod yn y gymdeithas gyfoes. Daeth newyddiadurwyr, academyddion, myfyrwyr, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr elusennau ynghyd i rannu safbwyntiau a meithrin partneriaethau newydd.
Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan y Religion Media Centre, maes pwnc Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor, a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Canolbwyntiodd y dydd ar gryfhau’r ddeialog rhwng cymunedau ffydd a’r cyfryngau, tra’n hyrwyddo llythrennedd crefyddol a dealltwriaeth gyhoeddus ehangach. Wrth i gwestiynau ynghylch crefydd, hunaniaeth a chred barhau i fod yn amlwg mewn trafodaethau cyhoeddus, pwysleisiodd y digwyddiad bwysigrwydd llythrennedd crefyddol ac ymgysylltiad gwybodus â’r cyfryngau wrth helpu unigolion a chymunedau i lywio materion cymdeithasol cymhleth.
Yn dilyn croeso gan yr Is-Ganghellor Cynorthwyol, yr Athro Enlli Thomas, cafodd y digwyddiad ei lywio gan y Parchedig Glyn Wise ac Emma Meese drwy raglen amrywiol o gyflwyniadau, cyfweliadau a thrafodaethau. Ymhlith y cyfranwyr roedd y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James, Esgob Bangor, a fyfyriodd ar ffydd, arweinyddiaeth a bywyd cyhoeddus; y darlledwr John Roberts o raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru; a phanel cyfryngau yn cynnwys yr Athro Ruth McElroy, Alison Gow a Jonathan Thomas, a fu’n trafod y berthynas rhwng cymunedau ffydd a newyddiaduraeth yng Nghymru.
Rhoddwyd sylw hefyd i safbwyntiau pobl ifanc, gyda dysgwyr chweched dosbarth a myfyrwyr prifysgol yn mynegi sut y deuir ar draws crefydd drwy newyddion, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol. Roedd y trafodaethau drwy gydol y dydd yn seiliedig ar arbenigedd cynrychiolwyr o’r sector addysg, sefydliadau cymunedol, grwpiau ffydd a’r trydydd sector, gan adlewyrchu’r amrywiaeth o leisiau sy’n llywio sgyrsiau cyhoeddus am grefydd yng Nghymru heddiw.
Un o uchafbwyntiau’r dydd oedd cyfres o gyflwyniadau byr yn arddangos mentrau ffydd, diwylliannol a chymunedol ledled Gogledd Cymru. Roedd y rhain yn dangos ehangder y gweithgarwch sy’n digwydd yn y rhanbarth a gwerth cydweithio rhwng sefydliadau.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd y cyd-drefnydd, Dr Joshua Andrews, “Un o agweddau mwyaf calonogol y diwrnod oedd gweld cysylltiadau newydd yn datblygu rhwng pobl y mae eu gwaith yn croestorri, ond nad ydynt o reidrwydd yn cael y cyfle i gyfarfod yn aml. Mae dod ag addysgwyr, newyddiadurwyr, cynrychiolwyr ffydd a sefydliadau cymunedol ynghyd yn agor posibiliadau newydd ar gyfer cydweithio a all barhau ymhell y tu hwnt i’r digwyddiad ei hun.”
Ychwanegodd y cyd-drefnydd, Dr Gareth Evans-Jones, “Mae crefydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r ffordd y mae llawer o bobl yn deall eu hunain, eu cymunedau a’r byd o’u cwmpas, ac mae’r ffordd y caiff ei chynrychioli yn y cyfryngau yn eithriadol bwysig. Rhoddodd Creu Cysylltiadau gyfle gwerthfawr i ddod â phrofiadau gwahanol i’r un ystafell er mwyn gofyn cwestiynau ystyrlon a gwrando ar ein gilydd. Roedd egni’r sgyrsiau hynny yn dangos pa mor fawr ydy’r potensial i barhau i archwilio a chydweithio.”
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau, “Un o gryfderau mawr y dyniaethau yw’r gallu i ddod â phobl ynghyd i archwilio cwestiynau cymhleth o safbwyntiau gwahanol. Dangosodd Creu Cysylltiadau werth deialog rhwng cymunedau ffydd, gweithwyr proffesiynol ym maes y cyfryngau, addysgwyr ac ymchwilwyr, gan dynnu sylw hefyd at y cyfraniad pwysig y mae crefydd yn parhau i’w wneud i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Roeddem wrth ein bodd yn cynnal digwyddiad a oedd yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol i feithrin dealltwriaeth, ymholi beirniadol ac ymgysylltu dinesig.”
Amlygodd y digwyddiad bwysigrwydd adrodd gwybodus am grefydd a dangos gwerth ymgysylltiad ystyrlon rhwng sefydliadau cyfryngau, addysgwyr a chymunedau ffydd. Gyda pherthnasoedd newydd wedi’u sefydlu a chydweithrediadau pellach eisoes yn datblygu, gosododd Creu Cysylltiadau sylfaen gadarn ar gyfer deialog barhaus ledled Cymru.