Blas ar Tsieinëeg yn y Diwrnod Ieithoedd a Gyrfaoedd!
Daeth yr iaith Tsieinëeg a chelfyddyd caligraffi yn fyw i 150 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o 25 o ysgolion uwchradd drwy weithdai a gyflwynwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn y Diwrnod Ieithoedd a Gyrfaoedd ar 9 Tachwedd 2026.
Trefnwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor gan y Swyddogion Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol, Nathalie Thomas a Ruben Chapela-Orri, ar y cyd â Gyrfa Cymru. Rhoddodd gyfle i ddisgyblion archwilio ieithoedd a darganfod y cyfleoedd y gall eu dysgu eu cynnig.
Yn ystod tri gweithdy rhyngweithiol, cafodd y disgyblion gyfle i roi cynnig ar siarad Tsieinëeg cyn codi brwshys i ymarfer ysgrifennu cymeriadau Tsieineaidd. Cynigiodd y sesiynau gyflwyniad ymarferol i iaith a diwylliant Tsieina, gyda digon o gyfleoedd i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Diolch i Nathalie, Ruben a Gyrfa Cymru am ddod â phawb ynghyd, ac i’r holl ddisgyblion a ymunodd â ni gyda brwdfrydedd a chwilfrydedd!