Roedd hi'n hyfryd croesawu ymchwilwyr doethuriaeth o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Brifysgol Bangor ar gyfer chweched Gynhadledd Clwstwr Economi, Menter a Chynhyrchiant Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru. Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o ehangder ac ansawdd yr ymchwil mae’r clwstwr yn ei gynnal, gan roi cyfle amhrisiadwy i ymchwilwyr rannu syniadau, datblygu cysylltiadau a ffurfio perthnasau ar gyfer y dyfodol.
Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys gair o groeso gan Dr Sara Parry, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Fusnes Albert Gubay a phrif anerchiad gan yr Athro Andrew Edwards, sy’n Ddirprwy i’r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor.
Tynnodd y gynhadledd sylw at gryfder ymchwil ôl-radd ar draws rhwydwaith Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ac atgyfnerthodd ymrwymiad Prifysgol Bangor i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr. Archwiliwch gyfleoedd ymchwil ôl-radd yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.