Byddwch yn Fentor Iaith a Diwylliant yn 2026-27
*Please note, it is an opportunity being advertised by an external institution to the university.
Byddwch yn Fentor Iaith a Diwylliant yn 2026-27!
Ydych chi'n dwlu ar ieithoedd a diwylliannau? Os felly, dewch i ymuno â Mentora Amlieithog!
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais erbyn 20 Tachwedd:
https://mfl.fra1.qualtrics.com/jfe/form/SV_8iRiVEFUasso1ng
Mae Mentora Amlieithog yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o bob disgyblaeth sydd â diddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau. Does dim angen i chi fod yn astudio iaith i wneud cais.
Byddwch yn hyrwyddo manteision amlieithrwydd drwy gyfres o sesiynau mentora gyda grŵp bach o ddysgwyr 12-14 oed mewn ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cynnwys bwrsari o hyd at £250, ynghyd â chyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy, ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth a bod yn rhan o gymuned o fyfyrwyr sy'n rhannu diddordebau tebyg.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan a'n cyfrifon X ac Instagram.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â thîm Mentora Amlieithog drwy e-bost: multilingualmentoring@caerdydd.ac.uk.