Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr wedi dyfarnu grantiau o Gronfa Bangor i 19 o brojectau a mentrau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 2026-27. Nod y mentrau hyn yw ychwanegu gwerth at y profiad myfyrwyr, gan adlewyrchu creadigrwydd, uchelgais a chydweithrediad ar draws y Brifysgol.
Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan roddion cyn-fyfyrwyr a chynhelir ymgyrch telethon ddwywaith y flwyddyn i godi arian at y gronfa. Prif bwrpas y gronfa yw cefnogi'r Brifysgol i gynnig rhywbeth ychwanegol fel rhan o brofiad myfyrwyr.
Ymhlith y projectau sy’n cael eu cefnogi mae:
- Bwrsariaethau teithio i fyfyrwyr Cerddoriaeth i broject BBC NOW, Cyfansoddi: Cymru 2027
- Bwrsariaethau Teithio i fyfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg: Arsylwi Cyfiawnder Troseddol ar Waith yn yr Old Bailey ac yn Amgueddfa Bow Street
- Bwrsariaethau teithio i alluogi myfyrwyr Polisi Cymdeithasol i gymryd rhan yn y Rhaglen Gyfunol Ddwys (BIP) ryngwladol ‘Transnational Perspectives on Social Spaces and Communities in Germany’ yn yr Almaen, Mai - Mehefin 2027
- Cefnogaeth ariannol i dîm o fyfyrwyr yn Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drefnu cynhadledd yr European Stage Research Association (ESRA) yn 2027
- Bwrsariaethau teithio i alluogi myfyrwyr Celfyddydau Creadigol i ennill profiad ymarferol mewn stiwdio deledu weithredol, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol fel rhan o Ddiwrnod Diwydiant Sgrin Cymru yn Stiwdios Aria (Rownd a Rownd)
- Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr cerddoriaeth drwy leoliadau yn y sector diwylliannol a thrwy ymgysylltiad proffesiynol
- Bwrsariaethau teithio i roi cyfle i fyfyrwyr y modiwlau Sgriptio ar gyfer y Diwydiant ac Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin ennill profiad uniongyrchol yn y diwydiant trwy ymweliad â Stiwdios Hollyoaks a chymryd rhan mewn gweithdy arbenigol gydag awduron Lime Pictures.
- Cefnogi datblygiad proffesiynol, cyflogadwyedd ac ymgysylltiad myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol gydag ymarfer llenyddol cyfoes trwy sain a cherddoriaeth o dan y thema, Bydoedd Sain
- Ariannu datblygiad lleoliad rhithiol seicoleg i wella cyflogadwyedd a pharodrwydd am yrfa
- Galluogi Undeb y Myfyrwyr i ddarparu siwtiau gwlyb wedi eu gwneud o rwber naturiol ar gyfer Clwb Nofio yn y Gwyllt Prifysgol Bangor
- Cefnogi Ysgol Gwyddorau'r Eigion i gynhyrchu a dylunio copïau o esgyll siarcod er mwyn gallu rhoi hyfforddiant ymarferol i’r genhedlaeth nesaf o gadwriaethwyr y cefnfor ym Mangor.
- Cefnogi iechyd byd-eang a dysgu rhyngbroffesiynol ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth a Fferylliaeth trwy gyfrwng siaradwyr arbenigol a phanel gofal iechyd dyngarol o Sefydliad Iechyd y Byd yn ystod Wythnos Ddysgu Rhyngbroffesiynol Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym mis Chwefror 2027
- Darparu offer maes arbenigol, sbienddrychau arsylwi, i gefnogi dysgu yn y maes ar gyfer myfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Ariannu offer coedwigaeth a chadwraeth (Cyfarpar Diogelu Personol) i wella sgiliau myfyrwyr a chyfleoedd gwirfoddoli
- Cefnogi Myfyrwyr Fferylliaeth i Ddylunio a Gweithgynhyrchu Ffurflenni Dosiau wedi'u Haddasu Gan Ddefnyddio Argraffu 3D o Safon Fferyllol
- Ariannu digwyddiad i fyfyrwyr meddygaeth i hyrwyddo'r Gymraeg fel sgil glinigol
- Dathlu ysgrifennu creadigol drwy ddigwyddiad darllen cyhoeddus sy'n arddangos gwaith creadigol myfyrwyr israddedig ac ôl-radd Ysgol y Gymraeg
- Bwrsariaethau teithio i gefnogi cyfranogiad myfyrwyr y Gyfraith, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol a Phlismona mewn rhaglen Ewropeaidd ar ddinasyddiaeth fyd-eang
- Cyfrannu at y gwobrau a gyflwynir yn Noson Gwobrau Cymraeg y Brifysgol 2027 - cydnabod a dathlu cyfraniadau eithriadol staff, timau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ar draws y Brifysgol
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu Cronfa Bangor:
Diolch i haelioni ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor yn parhau i gyfoethogi profiad myfyrwyr mewn ffyrdd trawsnewidiol a pharhaol. Mae eich cefnogaeth yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrwyr ddatgloi eu llawn botensial, cydweithio'n hyderus, ac arwain gyda phwrpas. Edrychwn ymlaen at weld y projectau hyn yn dwyn ffrwyth, a gobeithiwn eich bod chi'n teimlo'n ysbrydoledig gan wybod bod eich haelioni wrth wraidd y cyfan.