Mae prifysgolion yn creu eu gwerth cymdeithasol mwyaf pan fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu y tu hwnt i'r campws a'i datblygu ar y cyd â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Drwy ddod â busnesau, academyddion, myfyrwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid yn y sector cyhoeddus ynghyd, helpodd y gweithdy hwn i droi gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg am ddeallusrwydd artiffisial yn gyfleoedd ymarferol ar gyfer cynhyrchiant, arloesedd a ffyniant rhanbarthol gwell. Drwy gysylltiadau fel hyn, gallwn feithrin gallu lleol, datblygu partneriaethau parhaol a chyfrannu at wneud Cymru yn lle hyd yn oed gwell i fyw a gweithio ynddo.
Tynnodd y digwyddiad sylw at y rôl bwysig y gall cydweithio rhwng busnes, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus ei chwarae wrth gefnogi arloesedd a thwf cynaliadwy ledled Gogledd Cymru.