Cyfle Grantiau Ymchwil Santander
Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ymgyrch ddiweddaraf Grantiau Ymchwil Santander, sy’n cynnig 50 o grantiau gwerth £1,000 i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig ac aelodau staff prifysgol sy’n ymgymryd ag ymchwil mewn prifysgolion yn y DU.
Gellir defnyddio’r grantiau i dalu am ystod o gostau sy’n gysylltiedig ag ymchwil, gan gynnwys offer, deunyddiau, teithio, gwaith maes a gweithgareddau lledaenu canlyniadau ymchwil.
Byddem yn ddiolchgar am eich cefnogaeth wrth rannu’r cyfle hwn gyda myfyrwyr a chydweithwyr cymwys ar draws eich sefydliad.
Dyddiadau allweddol
- Dyddiad cau ceisiadau: 28 Ionawr 2027
- Hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus: 15 Chwefror 2027
Pwy all wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr:
- Fod yn breswylwyr yn y DU ac yn 18 oed neu’n hŷn.
- Fod wedi cofrestru ar gwrs ôl-raddedig (gan gynnwys rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, ymchwil ôl-raddedig neu ddoethurol), neu fod yn aelod o staff mewn prifysgol yn y DU.
- Fod yn ymgymryd ag ymchwil yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27.
Mae ymchwil o bob disgyblaeth a maes pwnc yn gymwys.
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr gofrestru neu fewngofnodi i Santander Open Academy, cwblhau’r ffurflen gais ar-lein, a darparu eu rhif adnabod myfyriwr neu rif adnabod aelod o staff y brifysgol.