Mae’r Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion yng Nghymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf ar ffoneg synthetig systematig (FfSS), â chyngor ymarferol i addysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Dysgu, mae’r canllaw wedi'i lunio mewn ymateb i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i addysgu FfSS fel rhan o'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a'i nod yw helpu ysgolion i ddarparu dulliau addysgu ffoneg o ansawdd uchel yn hyderus.
Mae'r Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion ar gael ochr yn ochr â Chrynodeb i Athrawon a Chymorthyddion Dysgu, fersiwn sy'n fyrrach ac yn hylaw, er mwyn cefnogi ymarferwyr yn eu gwaith addysgu. Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn cynnig dull cydlynol, seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cyflwyno elfen allweddol o addysg llythrennedd.
Pam mae'r Canllaw yn bwysig
Mae dysgu darllen yn un o'r sylfeini pwysicaf ar gyfer llwyddiant addysgol ac mae FfSS hefyd yn cefnogi ysgolion i addysgu ffoneg yn y ddwy iaith. Mae'r canllaw newydd yn egluro'r wyddoniaeth sy'n sail i addysgu ffoneg, ac yn nodi sut y gall ysgolion roi FfSS ar waith yn effeithiol. Wedi’i ddatblygu ar gyfer system addysg ddwyieithog Cymru, mae’r canllaw yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn egluro sut y gall addysgu ddatblygu gwybodaeth bresennol dysgwyr pan fyddant yn dechrau darllen mewn iaith arall. Mae’r canllaw hefyd yn cynnig cyngor ar ddewis adnoddau ffoneg o ansawdd uchel.
Beth sydd yn y Canllaw
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys:
- Eglurhad clir o ffoneg a sut mae’n cyfrannu at sgiliau darllen a sillafu.
- Canllaw ymarferol ar ddysgu FfSS yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Cyngor ar asesu, gwirio cynnydd, ac addasu dulliau addysgu.
- Cefnogaeth i ddysgwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys dysgwyr hŷn.
- Arweiniad ar ddewis testunau ar gyfer ymarferion dadgodio a darllen ehangach.
- Rhestr wirio i helpu ysgolion i werthuso rhaglenni ac adnoddau ffoneg.
- Cymhariaeth o gysylltiadau rhwng llythyren/llythrennau a sain (Cyfatebiaethau Graffem-Ffonem, CGFfau) yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ymchwil ac arbenigedd ystafell ddosbarth
Lluniwyd y canllaw dan arweiniad Dr Cameron Downing a'r Athro Manon Jones, gyda chyfraniadau gan ymarferwyr llythrennedd, academyddion ac arbenigwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Roedd y broses o'i ddatblygu yn cyfuno tystiolaeth ymchwil, arbenigedd ystafell ddosbarth, ac adolygiad gan arbenigwyr allanol.
Dywedodd Dr Cameron Downing, “Bydd llawer o addysgwyr wedi clywed am lwyddiant FfSS mewn gwledydd eraill, a bod hynny bellach yn rhan ganolog o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer llythrennedd yng Nghymru. Yr hyn sydd ei angen ar addysgwyr yw gwybodaeth glir, wrthrychol, seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd ag elfennau ymarferol i'w cefnogi i gyflwyno FfSS yn y Gymraeg a'r Saesneg – a dyna beth mae'r Canllaw hwn yn ei gynnig.”
Meddai Anna Brychan, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, ”Llythrennedd a rhifedd yw’r blociau adeiladu ar gyfer dysgu, gweithio a bywyd yn gyffredinol. Rydym wedi datgan yn glir fel llywodraeth newydd ein bod yn disgwyl i Ffoneg Synthetig Systematig (FfSS) gael ei ddefnyddio wrth addysgu ein pobl ifanc. Mae’r adnodd hwn yn cefnogi ein cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol a gyhoeddwyd yn ddiweddar wrth i ni bennu ein disgwyliadau yn glir a rhoi i athrawon ac ysgolion yr eglurder maent yn gofyn amdano.”
Edrych ymlaen
Y Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion yng Nghymru yw’r cyntaf mewn cyfres arfaethedig o ganllawiau llythrennedd gan CAL:ON Cymru, sy'n cyfrannu at ymdrechion ehangach i gryfhau canlyniadau llythrennedd ymysg dysgwyr ledled Cymru. Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â rhaglen ehangach CAL:ON Cymru o gymorth llythrennedd, dysgu proffesiynol ac adnoddau asesu, sydd wrthi’n cael eu datblygu a'u profi gydag ysgolion ar hyn o bryd trwy Dysgu
Cael gafael ar y Canllaw
Mae’r Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion yng Nghymru, a’r Crynodeb cysylltiedig ar gyfer Athrawon a Chymorthyddion Dysgu, ar gael yn:
https://www.bangor.ac.uk/cy/calon-cymru/canllaw-i-ffoneg-i-ysgolion-yng-nghymru