Fy ngwlad:
Dr Jen Roberts, post-doctoral researcher at Dementia Services Development Centre Wales
Dr Jen Roberts, post-doctoral researcher at Dementia Services Development Centre Wales

Dr Jen Roberts, sy’n Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru

“Yn wreiddiol cafodd y llyfryn ei lunio gan y Grŵp Caban ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â grwpiau DEEP eraill yng Nghymru, i ymateb i ganfyddiad fod pobl angen cael y swm cywir o wybodaeth ar ôl cael diagnosis. Mae’r teitl “Grym mewn Gwybodaeth” yn ddyfyniad uniongyrchol gan un o aelodau Caban wrth iddyn nhw ddisgrifio eu gwytnwch eu hunain. Ysbrydolodd y llyfryn cyntaf hwnnw sawl argraffiad arall ac addasiadau ledled y Deyrnas Unedig, a dan ni wrth ein boddau’n gweld tystiolaeth o’r effaith mae’r llyfryn wedi ei gael.”

Mae i’r canfyddiadau hyn oblygiadau pwysig i sefydliadau yn y sector iechyd, y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol sy'n ceisio gwella cefnogaeth ar ôl diagnosis. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu fod cael gwybodaeth amserol a hygyrch sydd wedi ei llunio ar y cyd â phobl sydd â dementia yn gallu chwarae rhan fawr wrth helpu pobl i ddeall eu diagnosis a symud ymlaen yn gadarnhaol.