Podlediad: Profiadau gwasanaethau cymorth arbenigol i fenywod sydd wedi profi trais rhywiol a cham-drin rhywiol
Croeso i ail bodlediad cyfres We Care.
Yn y bennod hon, mae’r panel yn archwilio profiadau gwasanaethau cymorth arbenigol i fenywod sydd wedi profi trais rhywiol a cham-drin rhywiol.
Mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar rai o’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal sgrinio ceg y groth, ac mae’n archwilio rhai o’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r model gofal tosturiol ar gyfer sgrinio ceg y groth.
Panel:
- Ceryl Davies, o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddygol Prifysgol Bangor.
- Kalpa Pisavadia, Myfyriwr PhD yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddygol Prifysgol Bangor.
- Lucy Duckworth – Survivors Trust
- Sara Kirkpatrick – Welsh Women’s Aid
- Shirley McCann – Rheolwr Gwirfoddolwyr a Digwyddiadau, Stepping Stones Gogledd Cymru
Rhybudd cynnwys: Mae’r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais rhywiol a cham-drin rhywiol, a allai fod yn ofidus i rai gwrandawyr. Cymerwch ofal wrth wrando.
Mae We Care yn gyfres bodlediadau sy’n archwilio sut y gellir darparu sgrinio ceg y groth mewn ffyrdd sy’n dosturiol, sensitif ac ymatebol i fenywod sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol. Gan dynnu ar ymchwil ryngwladol ar draws Cymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia, mae’r gyfres yn dod â phrofiadau byw, mewnwelediadau ymarferwyr a safbwyntiau ar lefel system ynghyd i archwilio’r ffactorau sy’n galluogi ac yn rhwystro menywod rhag teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu mewn lleoliadau sgrinio.
Mae’r gyfres yn rhan o brosiect ymchwil ehangach sy’n datblygu model gofal tosturiol ar gyfer sgrinio ceg y groth. Mae’n archwilio nid yn unig welliannau ymarferol mewn cyfathrebu, dewis a dylunio gwasanaethau, ond hefyd yn cymhwyso economeg iechyd a gofal i asesu effaith a gwerth. Drwy gyfuno profiad byw, cydgynhyrchu a gwerthuso economaidd, nod We Care yw cefnogi gwasanaethau sgrinio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n gynaliadwy, gan gryfhau ymddiriedaeth, mynediad a chanlyniadau i fenywod.