Fy ngwlad:
Students walking and chatting in the Main Arts building

Guardian University Guide 2027- Prifysgol Bangor yn llwyddo i gynnal ei safle'n genedlaethol yn sgil gwelliant mewn mesurau allweddol

Mae Prifysgol Bangor wedi cadw safle cymharol sefydlog yn y Guardian University Guide 2027, rhestrwyd y brifysgol yn 64ain (i lawr dau safle) allan o 123 o sefydliadau. Cofnodwyd gwelliannau nodedig mewn mesurau allweddol sy’n ymwneud ag addysgu, asesu, staffio a chanlyniadau graddedigion.