Gwybodaeth am y project:
Mae gan lawer o organau glociau sy'n cydlynu gweithgarwch yn ystod y dydd a’r nos. Mewn llygod, mae gan y glust fewnol ei chloc circadaidd ei hun, ac mae ei fregusrwydd i sŵn niweidiol yn amrywio drwy gydol y dydd. Nid yw'n hysbys a yw clyw dynol yn cadw amser yn yr un ffordd.
Yn y ddoethuriaeth hon fe gewch chi wybod. Byddwch yn mesur allyriadau otoacwstig (synau a gynhyrchir gan y glust fewnol iach), trothwyon clyw, dealltwriaeth lleferydd mewn sŵn cefndirol ac a yw hyn yn newid yn dibynnu ar ba adeg o’r dydd yw hi. Yna byddwch yn cysylltu’r rhain â chloc corfforol pob person gan ddefnyddio dyfeisiau monitro a wisgir ar yr arddwrn a samplu melatonin gartref. Gan ddefnyddio sbectrosgopeg MR ac MRI, byddwch yn profi a yw newidiadau dyddiol yn yr ymennydd sy'n clywed yn cyd-fynd â newidiadau yn y glust ac mewn gwrando. Bydd astudiaeth maes yn cymharu gweithwyr shifft nos a gweithwyr dydd. Bydd y canfyddiadau'n ateb cwestiwn sylfaenol am fioleg ddynol a gallent ddylanwadu ar sut mae clyw yn cael ei asesu a sut mae clyw gweithwyr nos yn cael ei ddiogelu.
Byddwch yn ymuno â Rhaglen Hyfforddi Doethurol Rhythmau Bywyd Leverhulme, sef carfan ryngddisgyblaethol sy'n cwmpasu'r gwyddorau bywyd, amgylcheddol a dynol, gyda hyfforddiant pwrpasol, hyd at bedair blynedd o gyllid a chyllideb ymchwil a hyfforddiant.
Hanfodol:
Gradd israddedig 2:1 neu uwch mewn seicoleg, niwrowyddoniaeth, awdioleg, bioleg, ffisioleg neu bwnc cysylltiedig, a diddordeb mawr mewn ymchwil arbrofol gyda phobl.
Dymunol:
Gradd meistr; profiad gydag awdiometreg, seicocwstig, niwroddelweddu neu gronobioleg; rhaglennu (e.e. MATLAB) a sgiliau ystadegol.
Cyswllt:
I ymholi’n anffurfiol, cysylltwch â Dr Patricia Bestelmeyer (p.bestelmeyer@bangor.ac.uk).