Gwybodaeth am y project:
Mae rhythmau digwyddiadau mawr bywyd, fel amseriad atgenhedlu, yn effeithio ar a yw unigolion yn rhyngweithio—ac yn paru—ai peidio. Mae poblogaethau sy'n wahanol o ran amseriad atgenhedlu yn llai tebygol o gyfnewid genynnau, a all danio ffurfio rhywogaethau newydd, gwahanol sy'n cael eu hynysu mewn amser oherwydd eu rhythmau gwahanol. Mae'r project hwn yn ymchwilio i weld a yw rhythmau blynyddol anghymharus mewn gweirloynod llwyd (Hipparchia semele) yng Ngogledd Cymru wedi arwain at ffurfio dwy rywogaeth wahanol. Mae dwy boblogaeth o weirloynod llwyd a geir ar y Gogarth yn wahanol o ran ffenoleg—mae un yn ymddangos yn gynharach a'r llall yn ymddangos yn ddiweddarach, yn debycach i boblogaethau eraill o bob cwr o'r Deyrnas Unedig.
Dyma amcanion y project:
Asesu cyfraniad cymharol ffactorau genetig ac amgylcheddol wrth gynhyrchu'r amser hedfan cynnar ar gyfer gweirloynod llwyd y Gogarth a mesur cryfder yr arunigedd atgenhedlol rhwng y poblogaethau newydd cynnar a'r poblogaethau newydd hwyrach gan ddefnyddio arbrofion ymddygiadol labordy.
Mesur y gwahaniaethau genomig rhwng y poblogaethau newydd cynnar a hwyr ar y Gogarth ac ar draws Gogledd Cymru o samplau cyfoes ac amgueddfeydd i brofi llif genynnau a dod o hyd i enynnau sy'n cael eu dewis ar gyfer y boblogaeth gynnar o weirloynod llwyd sy'n cyfrannu at yr amser hedfan cynnar.
Bydd y project yn cynnwys gwaith maes, arbrofion magu ac ymddygiadol, a dilyniannodi genomig a thranscriptomig a biowybodeg. I grynhoi, bydd y project yn defnyddio technegau o'r radd flaenaf i ymchwilio i ffurfiant rhywogaethau ar waith yng Ngogledd Cymru.
Cyfeiriadau:
Middlebrook et al. (2019) The importance of unique populations for conservation: the case of the Great Orme’s head grayling butterfly (Hipparchia semele) (Linnaeus, 1758) (Lepidoptera: Satyrinae). Journal of Insect Conservation 23, 381–391
Cymhwystra:
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig iawn sydd â diddordeb yn y byd naturiol, gloÿnnod byw, a/neu ffurfiant rhywogaethau. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf radd 2(i) (neu gyfwerth) mewn pwnc perthnasol (Ecoleg, Esblygiad, Swoleg, Bioleg). Mae gradd MSc berthnasol neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol. Bydd gwaith maes yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr fod â thrwydded yrru.
Ymholiadau:
Anfonwch unrhyw ymholiadau anffurfiol am y swydd hon at Dr Benjamin Jarrett (b.jarrett@bangor.ac.uk).
Supervisory Team
Dr Benjamin Jarrett
Ben studies social evolution and insect-plant interactions using experimental evolution.