Y farn gyffredin yw bod Cyfandiroedd America wedi'u poblogi gan helwyr-gasglwyr a oedd yn croesi pont dir Beringia rhwng Asia a Gogledd America tua diwedd y Cyfnod Pleistosen. Mae rhagdybiaeth amgen yn cynnig bod band o goedwigoedd gwymon cynhyrchiol, yr hyn a elwir yn 'briffordd gwymon', wedi cefnogi pobloedd morwrol i wneud y daith trwy lwybr mudo arfordirol yn lle hynny (Erlandson et al., 2007, The Journal of Island and Coastal Archaeology 2:161-174). Mae enghreifftiau eraill o fudo dynol hefyd yn awgrymu rôl bwysig i lwybrau arfordirol sydd ag ecosystemau cynhyrchiol ger y lan. Yn wir, mae'n debygol bod bodau dynol wedi dibynnu ar adnoddau coedwigoedd gwymon ers hyd at 70,000 o flynyddoedd.
Credir bod llanw yn modylu’r maes golau tanddwr mewn ffyrdd sy'n hybu cynhyrchiant coedwigoedd gwymon (Roberts et al., 2018, Limnology and Oceanography 63(1):91-106). Mae'n debygol eu bod yn arwain at amrywiadau cyfnodol mewn cynhyrchiant cynradd benthig ac yn sbarduno cylchoedd cyflenwol yn strwythur a swyddogaeth ecosystemau. O ystyried bod cyfundrefnau llanw yn ymateb i newid yn lefel y môr (Wilmes et al., 2023, Paleoceanography and Paleoclimatology 38:e2023PA004727), mae'n rhesymol rhagdybio bod y berthynas rhwng golau tanddwr a fodylir gan y llanw a chynhyrchiant gwymon hefyd yn newid yn unol â hynny, ar amserlenni sy'n berthnasol i wasgariad dynol cynhanesyddol ac argaeledd adnoddau ger y lan yn y dyfodol.
Nod y project hwn yw ymchwilio i allu'r llanw i strwythuro cynhyrchiant gwymon mewn gofod ac amser, drwy fodylu lefelau golau tanddwr. Bydd yr ymchwilydd PhD yn nodweddu'r ffenomen yn y presennol ac yn archwilio newidiadau dros amser, gan edrych i'r gorffennol a'r dyfodol i bennu goblygiadau o ran mudo dynol ac argaeledd adnoddau. Bydd y project yn integreiddio'r defnydd o efelychiadau llanw byd-eang â gwaith maes ecolegol, gan ddilysu a dehongli canfyddiadau trwy ddadansoddi arsylwadau biolegol a thystiolaeth anthropolegol.
Dylai ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd 2:1 neu uwch y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster cyfatebol, mewn disgyblaeth berthnasol megis gwyddor môr/eigioneg neu wyddor naturiol, daear neu amgylcheddol arall. Mae sgiliau rhifedd cryf yn hanfodol, yn ogystal â pharodrwydd i ymgymryd â gwaith maes morol a gweithio gan ddefnyddio dull gwyddonol rhyngddisgyblaethol. Mae cymwyseddau codio yn ddymunol. Bydd hyfforddiant penodol yn ychwanegu at y sgiliau presennol. Mae trwydded yrru lawn yn ddymunol i hwyluso gwaith maes.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Martyn Roberts (martyn.roberts@bangor.ac.uk).