Gwybodaeth am y project:
Mae fflachiadau poeth a chwysu gyda’r nos yn effeithio ar y rhan fwyaf o ferched yn ystod y menopos, gan amharu ar gwsg, llesiant a bywyd bob dydd. Er eu bod yn ffenomenau thermoreoleiddiol yn eu hanfod, mae’n syndod nad ydym yn gwybod llawer am sut mae tymheredd amgylcheddol yn dylanwadu ar symptomau'r menopos neu pam mae rhai merched yn profi symptomau mwy nag eraill. Bydd y PhD hwn yn ymchwilio i sut mae amlygiad i wres acíwt ac ailadroddus yn dylanwadu ar thermoreoli, canfyddiad thermol a’r ffordd y caiff symptomau'r menopos eu profi. Gan ddefnyddio arbrofion labordy rheoledig, bydd yr ymgeisydd PhD yn archwilio ymatebion ffisiolegol i amlygiad i wres, yn archwilio rôl mewnganfyddiad (sut mae pobl yn canfod signalau mewnol y corff), ac yn gwerthuso pa mor effeithiol ac ymarferol yw amlygiad ailadroddol i wres wrth leihau baich symptomau.
Mae'r project yn dwyn ynghyd ffisioleg amgylcheddol, niwrowyddoniaeth a seicoleg, iechyd merched ac ymchwil economeg, ac mae'n rhan o Raglen Hyfforddiant Doethurol Rhythmau Bywyd Prifysgol Bangor a ariennir gan Leverhulme. Bydd yr ymgeisydd yn cael ei gyd-oruchwylio gan yr Athro Sam Oliver, Dr Lara Maister, Dr Sophie Harrison a Dr Carys Stringer, sy'n darparu arbenigedd cyflenwol i gefnogi'r traethawd PhD rhyngddisgyblaethol hwn. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn ymuno â charfan ryngddisgyblaethol weithgar sy'n archwilio sut mae rhythmau biolegol ac amgylcheddol yn effeithio ar fywyd a llesiant.
Bydd yr ymchwil yn defnyddio cyfleusterau ffisioleg amgylcheddol, gan gynnwys siambrau amgylcheddol a thechnegau monitro ffisiolegol uwch. Darperir hyfforddiant mewn dulliau labordy, thermoffisioleg, asesiad seicolegol, dadansoddi ystadegol a dulliau ymchwil rhyngddisgyblaethol.
Cymwysterau a sgiliau hanfodol
Gradd israddedig 2:1 neu uwch (neu gyfwerth) mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, ffisioleg, seicoleg, gwyddor fiofeddygol, gwyddorau iechyd neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Diddordeb cryf mewn ffisioleg ddynol, iechyd merched ac ymchwil labordy.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cymwysterau a sgiliau dymunol:
Gradd meistr mewn disgyblaeth berthnasol.
Profiad o fesuriadau ffisiolegol dynol neu ymchwil arbrofol.
Profiad o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol (e.e. R, SPSS neu debyg).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â'r prif oruchwyliwr, yr Athro Sam Oliver (sjoliver@bangor.ac.uk).