Gwybodaeth am y project:
Sut gall gwahaniaethau yn amseriad atgenhedlu ddylanwadu ar esblygiad rhywogaethau?
Gall rhwystrau daearyddol fel mynyddoedd ac afonydd wahanu poblogaethau anifeiliaid, ond a allai gwahaniaethau mewn amseru tymhorol wneud yr un peth? Mewn anifeiliaid sy'n atgenhedlu'n dymhorol, efallai y bydd gan boblogaethau sy'n cael eu geni ac yn bridio ar wahanol adegau lai o gyfleoedd i ryngfridio, a allai sbarduno gwahaniaeth genetig hyd yn oed ar draws tirweddau parhaus.
Bydd y project hwn yn ymchwilio i sut mae’r hinsawdd yn dylanwadu ar wahaniaethau mewn amseriad atgenhedlu a sut mae hynny yn ei dro yn dylanwadu ar lif genynnau ac esblygiad mewn gwiberod Ewropeaidd (Vipera). Gan ddefnyddio'r wiber (Vipera berus) fel model, byddwch yn cyfuno dros 20,000 o arsylwadau gwyddor gymunedol, data o waith maes, cofnodion hinsawdd a data genom cyfan i fapio amseriad atgenhedlu mewn gwahanol fath o dirweddau a phrofi a yw gwahaniaethau tymhorol yn cyfrannu at ynysu genetig. Byddwch hefyd yn ymchwilio i bedair gwiber Ewropeaidd groesryw, gan archwilio a yw gorgyffwrdd atgenhedlol yn pennu ble mae rhywogaethau'n croesi a sut y gallai newid hinsawdd newid y patrymau hyn.
Dyma gyfle cyffrous i weithio ar y gorgyffwrdd rhwng bioleg esblygiadol, ecoleg, gwyddor hinsawdd a genomeg, gan fynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae ffiniau esblygiadol newydd yn ffurfio a sut mae rhywogaethau'n ymateb i newid amgylcheddol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch yn gweithio gyda thîm goruchwylio rhyngddisgyblaethol a chydweithwyr rhyngwladol, gan gyfuno ymchwil gyfrifiadurol â gwaith maes yng Ngogledd Cymru a Bosnia a Herzegovina. Mae'r project yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys genomeg poblogaethau, biowybodeg a chodio, modelu ecolegol a dosbarthiad rhywogaethau. Byddwch hefyd yn gwneud ymweliadau ymchwil ac yn mynd ar secondiad gyda chydweithwyr yng Nghaergrawnt, yn mynychu cyrsiau hyfforddi arbenigol ac yn cyflwyno'ch ymchwil mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Gofynion hanfodol
Isafswm o radd 2:1 (neu gyfwerth) mewn gwyddorau biolegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Cymhelliant cryf i ddysgu am ddamcaniaeth geneteg poblogaeth a biowybodeg a chodio uwch.
Brwdfrydedd dros ymchwil ryngddisgyblaethol a pharodrwydd i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol a gwaith maes newydd.
Profiad dymunol
Gradd lefel Meistr wedi'i dyfarnu neu bron â'i chwblhau.
Gwybodaeth neu brofiad o herpetoffawna, yn enwedig ymlusgiaid.
Profiad o waith maes ecolegol ac o gynnal arolygon biolegol.
Rhywfaint o brofiad codio (e.e. R neu Bash).
Cefndir mewn geneteg poblogaeth, genomeg neu fioleg esblygiadol.