Gwybodaeth am y project:
Sut fydd newid hinsawdd yn newid rhythmau parasitiaid? Yn y project doethuriaeth hwn, byddwch yn ymchwilio i sut mae newid hinsawdd hirdymor a thywydd eithafol yn ail-lunio amseriad, hyd a dwyster trosglwyddiad arbofirysol (e.e. y gwibgymalwst), a sut maen nhw'n newid amlygiad i barasitiaid a pha mor effeithiol yw mosgitos wrth drosglwyddo'r parasitiaid hynny.
Ymddengys fod rhythmau tymhorol i lawer o barasitiaid, gyda throsglwyddo'n digwydd pan fydd amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer eu goroesiad, eu datblygiad a'u hatgenhedlu. Wrth i newid hinsawdd newid patrymau tymheredd a dyddodiad, gall y rhythmau trosglwyddo hyn ymestyn, byrhau, neu symud i wahanol adegau o'r flwyddyn, tra gall digwyddiadau eithafol fel llifogydd, sychder a gwres llethol darfu arnynt ymhellach, gan ddwysáu, hollti neu ddisodli uchafbwyntiau tymhorol.
Byddwch yn profi'r ddamcaniaeth bod newid hinsawdd hirdymor a thywydd eithafol yn newid rhythmau trosglwyddo clefydau mewn ffyrdd gwahanol, gan ymestyn tymhorau trosglwyddo a tharfu ar gylchoedd trosglwyddo arbofeirysau gan ddefnyddio Brasil fel system fodel. Yn gyntaf, byddwch yn defnyddio setiau data iechyd cyhoeddus ac amgylcheddol i benderfynu a yw rhythmau trosglwyddo yn newid ac a yw digwyddiadau hinsoddol eithafol yn tarfu ar gylchoedd trosglwyddo. Byddwch yn ymchwilio i'r mecanweithiau sy'n sail i'r patrymau hyn, gan wahanu’r agweddau hynny sy’n effeithio ar amlygiad parasitiaid oddi wrth y rhai sy'n dylanwadu ar effeithlonrwydd trosglwyddo trwy integreiddio modelu perfformiad ac astudiaethau achos lleol.
Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngddisgyblaethol mewn ecoleg clefydau, modelu ecolegol, dadansoddi gofodol, gwyddor hinsawdd, a dadansoddi setiau data amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus mawr. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn dulliau meintiol a chyfleoedd i weithio gyda synhwyro o bell a data amgylcheddol cydraniad uchel. Bydd y sgiliau hyn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, iechyd y cyhoedd, neu ymgynghoriaeth amgylcheddol.
Gofynion cymhwystra: Dylai ymgeiswyr feddu ar, neu ddisgwyl cael, gradd israddedig anrhydedd 2:1 (neu gyfwerth) o leiaf. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb mewn ecoleg clefydau, clefydau a gludir gan fectorau, ac ymchwil feintiol. Sgiliau Dymunol: Profiad gydag R, modelu ecolegol a dadansoddi gofodol; Profiad o weithio gyda chronfeydd data iechyd cyhoeddus, clefydau heintus, neu setiau data mawr. Byddai gradd meistr (neu gyfwerth) mewn ecoleg, epidemioleg, gwyddor yr amgylcheddol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig, yn fantais ond nid yn hanfodol.
I ymholi’n anffurfiol, cysylltwch â Dr. Daniela de Angeli Dutra drwy e-bostio d.deangelidutra@bangor.ac.uk