Nid yw pob gwasanaeth yn gweithredu yr un fath ag arfer.
Fel arfer caiff y dudalen ei diweddaru rhwng 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc a’r dyddiau eraill y bydd y brifysgol ar gau.
Gweithredol Gweithredol Gweithredol Gweithredol Gweithredol Gweithredol Gweithredol
Enw Gwasanaeth | Statws Gwasanaeth |
---|---|
Arlwyo | Gweithredol |
Glanhau | Gweithredol |
Trydanol | Gweithredol |
Gwresogi | Gweithredol |
Lifftiau | 1) Un o brif lifftiau cyntedd Pontio allan o wasanaeth. 2) Lifft hygyrch Craig Mair allan o wasanaeth. |
Parcio | Gweithredol |
Diogelwch | Gweithredol |
Cyfleusterau Chwaraeon | Gweithredol |
Dŵr | Gweithredol |
Cyfleusterau Lles/Mannau Newid | Gweithredol |
Cynnal a Chadw wedi'i Drefnu
Ym misoedd Ebrill a Mai, bydd contractwyr SFS yn harchwilio y larwm ymyrraeth ar draws y campws. Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Ym misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf, bydd contractwyr Evans Maintenance Services yn gwasanaethu’r boeleri nwy a gwresogyddion mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Er y ceisiwn sicrhau y bydd cyn lleied â phosib o amser segur, bydd yn rhaid diffodd y cyflenwadau gwresogi a dŵr poeth dros dro i hwyluso’r gwaith o wasanaethu’r boeleri a’r pibellau.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Ym mis Mai, bydd contractwyr NW Automatic Doors Ltd yn gwasanaethu’r drysau awtomatig a drysau troi mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Bydd y cyfnod gwasanaethu ar bob drws yn fyr.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Ym misoedd Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi, bydd contractwyr CDS yn archwilio'r systemau larwm tân mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.