Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor

Y Gymraeg - Cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith

Rydym yn falch iawn o le'r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn annog myfyrwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu blynyddoedd gyda ni. 

Mae traddodiad hir o addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn heddiw mae llu o gyfleoedd i chi ddefnyddio'r iaith - o fewn eich astudiaethau, wrth ddefnyddio gwasanaethau'r Brifysgol ac wrth gwrs wrth gymdeithasu. Gwyliwch y fideos ar y dudalen hon i wybod mwy.

Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg

Fel siaradwyr Cymraeg, mae cefnogaeth a chyfleoedd i dderbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar eich cyfer drwy'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr yn ogystal ag o fewn eich Ysgol Academaidd. Pe byddech yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae llu o gefnogaeth ar gael ar eich cyfer i wneud hynny fel sydd wedi ei amlinellu yn y fideo.

Trawsgrifiad Fideo Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg

[0:00] Croeso i Brifysgol Bangor!

[0:02] Mae yna lwyth o gyfleoedd a chefnogaeth ar gael i chi ddefnyddio'r Gymraeg tra 'da chi yn y brifysgol,

[0:07] felly dyma flas i chi ohonyn nhw.

[0:10] Yn gyntaf,

[0:11] mae yna gyfle i chi astudio rhan fawr neu fach o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

[0:16] Gewch chi ddewis faint o'ch cwrs 'da chi isio ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg,

[0:20] ac yma mha iaith 'da chi'n cyflwyno eich gwaith.

[0:23] Mae 9 o bob 10 o'r siaradwyr Cymraeg sy'n fyfyrwyr yma,

[0:26] yn astudio rhwyfaint o'u cwrs drwy gyfrwng yr iaith.

[0:29] Felly mae'n rhywbeth hollol naturiol i wneud.

[0:32] Fel siaradwyr Cymraeg,

[0:34] gewch chi sgwrs a chyngor yn y Gymraeg ar unrhyw beth gan eich tiwtor personol,

[0:37] neu o wasanaethau myfyrwyr y brifysgol.

[0:41] Mae yna gymorth ar gael hefyd i'ch helpu chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy Ganolfan Bedwyr,

[0:46] sy'n creu modiwlau ac adnoddau sgiliau iaith fel Cysill ar ap Geiriaduron.

[0:52] Os byddwch chi'n astudio rhywfaint drwy'r Gymraeg,

[0:54] gallwch chi dderbyn cefnogaeth ariannol drwy Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,

[1:00] a'r bwrsariaeth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg y brifysgol.

[1:04] Yn olaf,

[1:05] mae yna lwyth o gyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg

[1:07] drwy gymdeithasau a thimau chwaraeon Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.

[1:12] Gwnewch yn fawr o'r cyfnod ym Mangor felly,

[1:15] a mwynhewch y profiad

Hawliau Siaradwyr Cymraeg

Fel siaradwyr Cymraeg, mae gennych chi hawliau ynghlwm â'r iaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Mae cefnogaeth a chyfleoedd i dderbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar eich cyfer drwy'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr yn ogystal ag o fewn eich Ysgol Academaidd. Pe byddech yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae llu o gefnogaeth ar gael ar eich cyfer i wneud hynny fel sydd wedi ei amlinellu yn y fideo.

Trawsgrifiad Fideo Hawliau Siaradwyr Cymraeg

[0:01] Helo a chroeso i Fangor!

[0:05] Dyma hawliau myfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg.

[0:11] Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.

[0:16] Cyfarfodydd yn Gymraeg.

[0:21] Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg.

[0:26] Tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.

[0:31] Gohebiaeth yn Gymraeg.

[0:35] Cais am gymorth ariannol yn Gymraeg.

[0:39] Llythyrau, ffurflenni a thystysgrifau yn Gymraeg.

[0:46] Llety myfyrwyr Cymraeg.

[0:50] Unrhyw gwestiynau?

[0:51] Cysylltwch â Chanolfan Bedywr.

CYMDEITHASU

Mae llu o gyfleoedd ar gael i chi gymdeithasu drwy'r iaith Gymraeg a hynny drwy UMCB, sef Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. 

Mae rhai o gymdeithasau UMCB yn cynnwys:

Aelwyd JMJ

Chwaraeon y Cymric

Cymdeithas John Gwilym Jones

Peidiwch ychwaith ag anghofio am 'Y Cymric' - corff cymdeithasol UMCB. Y Cymric sydd yn trefnu'r digwyddiadau cymdeithasol mae UMCB yn eu cynnig megis nosweithiau Clwb Cymru, Meic Agored a chrôlau lu.

I gael rhagor o flas ar yr hyn sydd gan UMCB i gynnig, beth am gael cip-olwg ar eu gwefannau cymdeithasol:

  • Facebook - UMCB
  • Trydar - @UMCB1
  • Instagram - @UMCB1976
  • Snapchat - UMCB1
UMCB Logo

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?