Ynglŷn â’r Ganolfan
Mae’r Ganolfan GYYDA yn dod ag ymchwil ac ymarfer ynghyd mewn ffordd sy'n wirioneddol gweithio i ysgolion. Rydym yn cynnig dysgu proffesiynol sydd yn help, hygyrch, hawdd i bobl sy'n gweithio mewn ysgolion a chydag ysgolion – o gyrsiau byr a hyfforddiant i gymwysterau a chefnogaeth wedi ei theilwra. Gydag arbenigedd o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam, rydym yma i helpu addysgwyr i deimlo ysbrydoliaeth a datblygu yn eu swyddi. Ein nod yw cefnogi athrawon, arweinwyr ac staff cynorthwyol i gynyddu eu hyder, rhannu syniadau a rhoi cynnig ar ddulliau newydd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion, sefydliadau a chymunedau i rannu ymarfer sy'n seiliedig ar ymchwil, cefnogi datblygiad gyrfaoedd a chreu dysgu sy'n gynhwysol, yn greadigol ac yn wirioneddol ddefnyddiol. Rydym yn creu cyfleoedd dysgu sy'n ymarferol, yn adfyfyriol ac yn seiliedig ar brofiadau go iawn o weithio mewn ysgolion – boed hynny trwy weithdai, hyfforddiant neu brojectau cydweithredol. P'un a ydych yn chwilio am gwrs sy'n addas i'ch tîm, neu rywbeth wedi ei deilwra i gyd-fynd ag amcanion eich ysgol, byddwn yn gweithio gyda chi i'w wireddu.
Yn union fel mae pob plentyn yn haeddu addysg sy'n caniatáu iddynt ddefnyddio eu galluoedd i’r eithaf, rydym yn credu bod pob addysgwr yn haeddu'r un peth – trwy ddarparu dysgu proffesiynol sydd yn help hygyrch, hawdd sy'n caniatáu ichi dyfu, chael cefnogaeth ac ailgysylltu â chraidd eu gwaith.
Dolenni
Digwyddiadau Nesaf
Digwyddiadau Mewn Person
Ymunwch â ni am ddarlith ddiddorol, am ddim sy'n archwilio hanesion cyfoethog ac amrywiol cymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, hanesions sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'i hwyluso gan BAMEed Cymru, a gynhelir gan Brifysgol Wrecsam.
Lleoliad: Ystafell B21, Prifysgol Wrecsam
Dyddiad: 19eg Mawrth 2026
Cost: Am ddim
Bydd y diwrnod hyfforddi hwn i athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr lles ysgolion yn canolbwyntio ar wneud y gorau o'ch mannau awyr agored ar gyfer dysgu a lles. P'un a ydych chi'n hoffi'r awyr agored ai peidio, bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i ddylunio cyfleoedd diogel i'r ysgol gyfan ddatblygu hyder, ymgorffori sgiliau, a theimlo'n well.
Lleoliad: Prifysgol Bangor
Dyddiad: 24ain o Ebrill 2026
Cost: £120 y pen, gan gynnwys cinio
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu, cysylltwch â GYYDA@bangor.ac.uk
Mae rheoli ystafell ddosbarth brysur yn hwyl ac yn heriol. Gall y cymysgedd unigryw o bersonoliaethau, ymddygiadau ac emosiynau ym mhob ystafell ddosbarth roi pwysau ar staff yr ysgol i roi'r gefnogaeth unigol sydd ei hangen ar bob plentyn bob eiliad. Mae hyn yn swnio'n ddelfrydol ond nid yw'n ymarferol nac yn bosibl. Mae'r diwrnod llawn hwn o ddysgu proffesiynol yn cyflwyno strategaethau dosbarth cyfan sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i gefnogi ymddygiad pob plentyn a lleihau'r baich ar staff. Gan ddefnyddio technegau cadarnhaol a rhagweithiol, byddwch yn dysgu sut i greu ethos ystafell ddosbarth sy'n cefnogi ymddygiadau cadarnhaol i bawb.
Lleoliad: Prifysgol Bangor
Dyddiad: 23ain o Fehefin 2026
Cost: £120 y pen, gan gynnwys cinio
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu, cysylltwch â GYYDA@bangor.ac.uk
Ar-lein
Mae'n anodd gwybod faint sydd angen i blant ei ddysgu am dechnoleg. Mae'r byd digidol ym mhobman ac yn datblygu mor gyflym, gall deimlo'n amhosib i gadw i fyny. Gwyddom fod plant yn cael eu heffeithio mewn sawl ffordd gan yr awydd i fod wedi'u cysylltu'n gyson ar-lein ond, fel athrawon, mae angen i ni hefyd sicrhau bod gan blant y sgiliau i ffynnu mewn byd cyflym. Bydd y dysgu proffesiynol ar-lein hwn yn archwilio'r peryglon a'r rhyfeddodau y mae technoleg yn eu cynnig ac yn eich helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng profiadau ar-lein a byd go iawn ar gyfer eich dosbarth.
Cynhelir y dysgu proffesiynol ar-lein hwn mewn tair sesiwn ar y dyddiadau canlynol:
Sesiwn 1: 23 Ebrill 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 2: 30 Ebrill 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 3: 7 Mai 2026: 4pm-6pm
Cost: £60 y pen
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb yn y dysgu proffesiynol hwn, cysylltwch â GYYDA@bangor.ac.uk
Mae Llais Plant yn ganolog i Gwricwlwm Cymru ac i Hawliau Plant. Yn y diwrnod hwn o ddysgu proffesiynol, rydym yn archwilio beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i ymgorffori llais plant yn ein gwaith mewn ysgolion. Yn ystod y sesiynau ar-lein, byddwn yn trafod y cysylltiadau rhwng llais plant, dysgu a lles, ac yn archwilio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymgorffori llais plant yng nghyd-greu'r cwricwlwm. Byddwn yn cyflwyno dull o gefnogi plant i arwain a chynnal eu hymchwil eu hunain yn eu cymuned i gefnogi asiantaeth ac ymgysylltiad plant mewn addysg.
Cynhelir y dysgu proffesiynol ar-lein hwn mewn tair sesiwn ar y dyddiadau canlynol:
Sesiwn 1: 4ydd Mehefin 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 2: 11eg Mehefin 2026: 4pm-6pm
Sesiwn 3: 18fed Mehefin 2026: 4pm-6pm
Cost: £60 y pen
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â GYYDA@bangor.ac.uk
Hyfforddiant Ysgol Gyfan
Rydym yn credu y dylai dysgu proffesiynol deimlo'n berthnasol, yn ysbrydoledig a dylai wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywyd bob dydd yr ysgol. Mae ein pecynnau hyfforddi ysgol gyfan wedi eu llunio i wneud yn union hynny – dod â chefnogaeth ymarferol, sy'n seiliedig ar ymchwil, i'ch holl staff.
P'un a ydych yn awyddus i feithrin diwylliant gyda chyfathrebu cryfach, hybu lles ar draws yr ysgol neu ddyfnhau ymarfer cynhwysol ac adfyfyriol, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio hyfforddiant sy'n diwallu anghenion unigryw eich ysgol. Mae ein tîm yn cyfuno'r wybodaeth ddiweddaraf â dealltwriaeth glir o realiti bywyd mewn ysgol i sicrhau bod yr hyfforddiant yn ddiddorol, yn effeithiol, ac yn ymarferol.
Rydym yn gwybod nad ticio blychau yn unig y dylai hyfforddiant effeithiol ei wneud – mae'n meithrin hyder, yn cefnogi newid go iawn, ac yn creu lle i staff ailgysylltu â'u gyrfa. Dyna pam mae ein sesiynau wedi eu cynllunio i fod yn gydweithredol, yn seiliedig ar ymchwil ac yn canolbwyntio ar strategaethau ymarferol sy'n cydio.
Mae ein cyrsiau'n addas i leoliadau cynradd, uwchradd ac arbenigol, a gellir eu cyflwyno'n hyblyg – ar-lein, yn y cnawd, neu trwy gyfuniad o'r ddau. P'un a ydych yn cynllunio diwrnod HMS, cyfres gyfnos, neu faes datblygu hirdymor, byddwn yn eich helpu i greu rhaglen ystyrlon a hawdd ei rheoli.
Byddwn yn gweithio gyda chi fel partner ymroddedig gan ddarparu cefnogaeth trwy gydol yr hyfforddiant ac wedi hynny i helpu eich ysgol ffynnu.
Dechreuwch eich taith gyda ni heddiw. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ein cynigion hyfforddi a sut y gallwn gydweithio fel bod dysgu proffesiynol yn gweithio i chi.
Ymgynghori
Mae Canolfan GYYDA yn tynnu ar arbenigedd staff y ddwy brifysgol gan gynnwys ymchwilwyr, arbenigwyr ac ymarferwyr mewn ystod eang o feysydd. Rydym ar gael i ymgynghori i'ch cefnogi chi a'ch ysgol i ddatblygu dulliau, rhaglenni neu ffyrdd o weithio wedi'u teilwra i'ch anghenion. Gallwch gwrdd â'r tîm isod a dysgu am ein meysydd diddordeb. Os oes meysydd penodol yr hoffech ymgynghori amdanynt, cysylltwch â GYYDA@bangor.ac.uk i helpu i ddod o hyd i'r person cywir i gefnogi eich gwaith.
Cwrdd â’r Tîm
Mae Tricia Sterling yn dod â dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysg athrawon i'w rôl fel Pennaeth Ysgol Addysg Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, gan arwain rhaglenni Rhagorol a chreu llwybrau newydd i'r proffesiwn. Mae angerdd Tricia yn gorwedd mewn helpu pobl ifanc ac addysgwyr i ffynnu, gan sicrhau bod addysgu yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i dyfu gydag uchelgais, arloesedd, ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Y tu hwnt i addysg, mae cariad Tricia at waith tîm, gwydnwch, ac uchelgais yn dod o'i chefndir mewn chwaraeon. Fel hyfforddwr cenedlaethol a rhanbarthol Pêl-rwyd Cymru, mae Tricia wedi gweld drosti'i hun sut y gall ymroddiad a chred ddatgloi potensial—yn union fel y maent yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth.
Mae Dr Sue Horder yn Ddeon Cyswllt Materion Academaidd yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam lle mae hi'n arwain yr Adran Addysg ac Ieuenctid a Chymuned. Mae hi'n aelod o Dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran, gan arwain ar ansawdd dysgu, addysgu ac asesu ar draws y Gyfadran. Dechreuodd gyrfa addysgu Sue mewn Addysg Bellach gan addysgu TGCh, Dylunio Gwefannau, Astudiaethau Busnes a Sgiliau Hanfodol. Mae Sue hefyd wedi gweithio gydag Airbus (mewn partneriaeth â'r coleg AB) i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu a oedd yn cynnig ystod o gyrsiau ar-lein ac mewn person ar sgiliau meddal, sgiliau arweinyddiaeth, TGCh ac ieithoedd tramor modern.
Enillodd Sue deitl cenedlaethol Rheolwr Canolfan Ddysgu'r Flwyddyn yng Nghynhadledd Byd Dysgu 2004. Mae hi hefyd yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a chanu mewn côr bach.
Mae Dr Nia Young yn Uwch Ddarlithydd Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi gefndir mewn seicoleg, cwnsela ac addysg, ac mae hi'n dod â chyfuniad unigryw o ymchwil a phrofiad ymarferol i'w gwaith.
Mae gwaith Nia yn canolbwyntio ar ddatblygiad hunaniaeth a hunan-barch plant ac mae hi'n frwd dros sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Hi sefydlodd Uwchgynadleddau Ieuenctid Bangor, lle mae plant a phobl ifanc yn dod ynghyd gyda gwleidyddion ac ymchwilwyr i siarad am y newidiadau maent eisiau eu gweld yn eu bywydau a'u cymunedau. Mae Nia hefyd yn gwnselydd ac yn arbenigo mewn cefnogi staff addysg, plant a rhieni.
Mae Nia wedi ymrwymo i greu profiadau dysgu sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil i ddatblygu strategaethau i gefnogi addysgwyr i ddatblygu, adfyfyrio a gwneud newidiadau cadarnhaol. Mae dull cynnes a chydweithredol Nia yn golygu ei bod hi bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu addysgwyr i deimlo'n hyderus a chael cefnogaeth wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ac arwain yn eu hysgolion a'u cymunedau.
Mae Dr Kelly Smith yn Uwch Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam ac yn arweinydd y rhaglenni Meistr Addysg. Mae ganddi gefndir mewn addysg ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol, ac mae hi'n dod â chyfoeth o brofiad i'w swydd. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar wella ymarfer addysgu a chefnogi addysgwyr yn eu datblygiad proffesiynol. Mae Kelly wedi arwain amryw o fentrau sydd â'r nod o wella canlyniadau addysgol a meithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Yng Nghanolfan GYYDA, mae Kelly yn cydweithio ar brojectau sy'n pontio rhwng ymchwil ac ymarfer, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol i addysgwyr. Mae ei harbenigedd mewn addysg a'i hymrwymiad i welliant parhaus yn cyfrannu at genhadaeth y ganolfan o ddarparu datblygiad proffesiynol ystyrlon ac effeithiol.
Mae Dr Graham French yn Uwch Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo gefndir mewn addysg awyr agored ac mae ganddo brofiad helaeth mewn swyddi addysgu ac arweinyddiaeth mewn amrywiol leoliadau addysgol. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar addysg antur a dysgu yn yr awyr agored, gyda'r nod o wella dulliau addysgeg a hyrwyddo dysgu effeithiol trwy'r cwricwlwm. Mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu polisïau addysg awyr agored yng Nghymru, gan eirioli dros fynediad cyfartal at brofiadau dysgu awyr agored i bob myfyriwr.
Yng Nghanolfan GYYDA, mae Graham yn cydweithio ar fentrau sy'n integreiddio ymchwil ag ymarfer, gan ganolbwyntio ar ymarfer addysg sy’n gynaliadwy a chynhwysol. Mae ei arbenigedd mewn addysg awyr agored a chynaliadwyedd yn cyfoethogi ymrwymiad y ganolfan i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ystyrlon i addysgwyr.
Mae Dr Karen Rhys Jones yn Brif Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam ac yn eiriolwr brwd dros lythrennedd corfforol a llesiant mewn ysgolion. Mae ganddi gefndir mewn addysg gorfforol a phrofiad helaeth mewn projectau lles cenedlaethol ac mae hi'n dod ag arbenigedd ac egni i'w gwaith gydag addysgwyr a dysgwyr.
Mae Karen wedi arwain a chefnogi mentrau ledled Cymru, gan gynnwys ei gwaith fel rheolwr ar y Rhaglen Lythrennedd Corfforol i Ysgolion gyda Chwaraeon Cymru. Mae hi wedi datblygu a chyflwyno hyfforddiant i athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr cymunedol, gan ganolbwyntio ar helpu plant a phobl ifanc i feithrin sgiliau hyder a mwynhad gydol oes wrth symud eu cyrff.
Yng Nghanolfan GYYDA, mae Karen yn cyfrannu ei harbenigedd mewn dysgu proffesiynol, datblygu cwricwlwm ac ymarfer cynhwysol. Mae ei gwaith yn cefnogi ysgolion i greu amgylcheddau gweithredol, deniadol, sy'n canolbwyntio ar lesiant lle gall staff a disgyblion ffynnu.
Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am Ganolfan GYYDA a chyfleoedd cysylltiedig, anfonwch e-bost at GYYDA@bangor.ac.uk