Galwad am Sgoriau | Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2027
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2027, mae Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o gyhoeddi cyfle cyffrous i gyfansoddwyr drwy Wobr Gyfansoddi Project Tannahill.
Mae gan Brifysgol Bangor hanes balch fel cartref i gyfansoddwyr o Gymru ac i sicrhau bod cerddoriaeth Cymru yn rhan o'n cwricwlwm. Yn rhy aml mae cyfansoddwyr benywaidd o Gymru yn cael eu hesgeuluso, eu hanghofio neu eu heithrio rhag cyfleoedd cyhoeddus i glywed eu gwaith yn cael ei berfformio.
Rydym yn gwahodd cyflwyniadau o gyfansoddiad cerddorfaol un symudiad, yn para 6–8 munud, wedi'i ysgrifennu ar gyfer cerddorfa lawn.
Bydd y gyfansoddwraig lwyddiannus yn derbyn gwobr o £2000, a bydd ei gwaith yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor, dan arweiniad Joe Cooper (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y Brifysgol Wartski), mewn cyngerdd arbennig ddydd Sul 7 Mawrth 2027, yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor.
Y gyfansoddwraig fuddugol fydd ein gwestai anrhydeddus yn y perfformiad.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn croesawu ac yn annog yn arbennig cyflwyniadau gan gyfansoddwyr benywaidd sydd â chysylltiadau â Chymru, gan gynnwys y rhai a aned yng Nghymru neu sy'n gweithio neu’n byw yng Nghymru, neu sydd wedi byw yng Nghymru yn y gorffennol. Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan gyfansoddwyr sy'n astudio cerddoriaeth yng Nghymru neu sydd wedi gwneud hynny'n ddiweddar.
Gofynion Cyflwyno
Cyfansoddiad: Gwaith un symudiad ar gyfer cerddorfa lawn, yn para rhwng 6 ac 8 munud.
Deunyddiau: Sgôr PDF ynghyd â nodyn rhaglen o ddim mwy na 300 o eiriau. I'w gyflwyno i: tannahillprize@bangor.ac.uk
Dyddiad cau cyflwyno: Dydd Gwener 8 Ionawr 2027, am 5.00pm.
Hysbysu'r canlyniad: Erbyn diwedd Ionawr 2027.
Gwobr: £500 a pherfformiad gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor.
Manylion y Cyngerdd
Dyddiad: Dydd Sul 7 Mawrth 2027
Lleoliad: Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Cerddorfa: Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
Arweinydd: Joe Cooper (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y Brifysgol Wartski)
Enill: £2000
Am ragor o wybodaeth am raglen y cyngerdd, ewch i:
Corau a Cherddorfeydd Prifysgol Bangor
Rhagor o Wybodaeth ac Ymholiadau
Am fanylion llawn y wobr, gan gynnwys gofynion sgorio cerddorfaol a chanllawiau cyflwyno, cysylltwch â John Cunningham.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau ac at ddathlu creadigrwydd a chyfraniadau cerddorol menywod drwy'r cyfle arbennig hwn.