Fy ngwlad:
Lori Beckett, Honorary Professor
Lori Beckett, Honorary Professor

Lori Beckett, Athro er Anrhydedd

"Mae'r ail gyfrol hon ar dlodi plant yng Nghymru yn ddatganiad gweledigaethol o gefnogaeth i dyfu ‘economi sy’n perthyn’ - economi werdd leol/ranbarthol gadarn a gynlluniwyd i weithio dros gymunedau lleol/rhanbarthol, wedi'i chefnogi gan ysgolion ac addysg.” 

Mae pob pennod yn tystio i’r gwaith sydd i’w wneud, yn enwedig i ymgysylltu plant a phobl ifanc mewn dysgu sy’n hwyl, yn ystyrlon ac yn bwrpasol, oherwydd dyma sydd ei angen i atal effeithiau tlodi, gan gynnwys ymddieithrio o ddysgu, dieithrio, plant yn absennol yn gyson, a gwrthod mynd i’r ysgol, sydd wedyn yn eu rhoi ar lwybr i ddod yn bobl heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEETs): mae hyn yn galw am ddysgu ar y cyd am yr hyn y gellir ei wneud i adeiladu dyfodol cynhyrchiol yma ym Mangor."

Mae’r llyfr ar gael yn awr mewn siopau llyfrau lleol, ynghyd â’r gyfrol gyntaf a gyhoeddwyd yn 2023, Child Poverty in Wales: Exploring the Challenges for Schooling Future Generations. I gael rhagor o wybodaeth am y ddau lyfr, ewch i wefan Gwasg Prifysgol Cymru:
 
I fynychu lansiad y llyfr, cofrestrwch yma.